Mae’r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r amgylchedd busnes deinamig a phwysigrwydd gweithgaredd entrepreneuraidd wrth greu cyfleoedd busnes a chynnal twf busnesau. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion busnes cyfoes sy’n berthnasol i’r amgylchedd busnes yng Nghymru.

Mae’r fanyleb yn canolbwyntio ar wahanol fathau o sefydliadau mewn sectorau amrywiol ac amgylcheddau busnes ac yn cydnabod eu bod yn wynebu gwahanol raddau o gystadleuaeth.