Anelir y cwrs hwn at wella sgiliau darllen, ysgrifennu a llafaredd Saesneg. Bydd myfyrwyr yn gweithio’n agos gydag athro / athrawes i wella cywirdeb technegol eu gwaith ysgrifenedig ac i ddatblygu dealltwriaeth well o bwrpas a chynulleidfa. Byddant hefyd yn gwella’u sgiliau darllen a phrawf darllen.

Bydd myfyrwyr yn cwblhau dau asesiad llafaredd a farciwyd yn fewnol cyn mis Rhagfyr (Uned 1 gwerth 20%) a dau arholiad allanol ym mis Mehefin (Uned 2 gwerth 40% a 3 gwerth 40%)

Mae TGAU Saesneg yn ofynnol ar gyfer mynediad i gyrsiau Lefel A neu Alwedigaethol. Mae’n darparu sgiliau hanfodol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol ac yn hanfodol ar gyfer mynediad i brifysgol a llawer o yrfaoedd proffesiynol.