Bydd Lefel A Daearyddiaeth yn annog myfyrwyr i gymhwyso gwybodaeth ddaearyddol, theori a sgiliau i’r byd o’u cwmpas. Bydd hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gritigol o bobl, ardaloedd ac amgylcheddau’r byd yn y 21ain Ganrif. Mae’r fanyleb yn edrych ar ddaearyddiaeth gorfforol a dynol ac yn cynnwys pedwar diwrnod o waith maes dros y ddwy flwyddyn.

Bydd myfyrwyr yn archwilio i ystod o bynciau diddorol ac eang megis amgylcheddau arfordirol, platiau tectonig, systemau hydrolegol, newidiadau economaidd ac anheddiad, a llawer mwy.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1

Mae’r papur yma yn ffocysu ar ddaearyddiaeth gorfforol. Mae’n ystyried amgylcheddau arfordirol a pheryglon tectonig. Asesir yr uned yma drwy arholiad 2 awr sy’n werth 24% o’r Lefel A llawn.

Uned 2

Mae’r papur yma yn ffocysu ar ddaearyddiaeth ddynol. Mae’r ystyried sut mae lleoliadau yn newid (ardaloedd trefol, diwylliant, amgylcheddau gwledig). Asesir yr uned yma drwy arholiad 1 awr 30 munud sy’n werth 15% o’r Lefel A llawn.

 

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 3

Mae’r papur yma wedi’i rhannu’n tair adran ac mae’n edrych ar “systemau a llywodraethu byd-eang”. Mae’n ystyried materion cyfoes megis newidiadau hinsawdd, globaleiddio ac ymfudo. Asesir yr uned drwy arholiad 2 awr sy’n werth 24% o’r Lefel A llawn.

Uned 4

Mae’r uned yma yn edrych ar syniadau cyfoes ychwanegol sy’n gysylltiedig â thectonig, hinsawdd, ynni a datblygiad. Asesir yr uned yma drwy arholiad 2 awr sy’n werth 16% o’r Lefel A llawn.

Uned 5

Mae’r uned yma yn galluogi myfyrwyr i gwblhau astudiaeth unigol ar sail thema maent wedi astudio yn ystod y cwrs. Mae’n cynnwys casglu data trwy waith maes ac ymchwil eilaidd. Mae hwn wers 20% o’r Lefel A llawn.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer unrhyw astudiaeth bellach mewn daearyddiaeth a llwybr i yrfa ddaearyddol.

Oherwydd natur eang y pwnc, a’r sgiliau a gafaelwyd drwy gydol y cwrs, mae’n cyfuno yn dda gyda gwyddoniaeth a phynciau celfyddydol i arwain at gyrsiau prifysgol mewn meysydd megis newyddiaduraeth, dysgu, tirfesur, cyfrifeg a chynllunio.

Bydd myfyrwyr sy’n dewis peidio â mynd i mewn i Addysg Uwch wedi datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy’n eu galluogi i archwilio ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd C yn TGAU Mathemateg, gradd C yn TGAU Daearyddiaeth a gradd C yn Saesneg.

Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.