Almaeneg
Cymhwyster
UG & U
Canlyniadau
Gradd A* - A: 100%
Bwrdd Arholi
CBAC
Mae myfyrwyr Almaeneg UG a Safon Uwch yn derbyn llawer o gyfleoedd newydd i wella a chyfoethogi eu hastudiaethau a’u sgiliau yn yr iaith, gan gynnwys taith gyfnewid gydag ysgol gramadeg o Stuttgart. Mae’r holl gyfleoedd hyn wedi eu trefnu i sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni’r canlyniadau arholiad gorau posib a bydd yn eu paratoi ar gyfer Addysg Uwch â chyflogaeth.
Lefel UG (blwyddyn 1)
Uned 1: Bod yn berson ifanc mewn cymdeithas Almaeneg ei hiaith
– strwythurau teuluoedd, gwerthoedd traddodiadol a modern, cyfeillgarwch / perthnasau
– tueddiadau, materion a hunaniaeth bersonol ieuenctid
– cyfleoedd addysgol a chyflogaeth
Uned 2: Deall y byd Almaeneg ei hiaith
– diwylliant rhanbarthol a threftadaeth yn yr Almaen, gwledydd a chymunedau sy’n siarad Almaeneg
– llenyddiaeth, celf, ffilm a cherddoriaeth yn y byd sy’n siarad Almaeneg.
Asesir y cwrs hwn mewn cyfanswm o 5 uned, 2 uned UG, a 3 uned A2.
UG (2 uned)
UG Uned1: Siarad
UG Uned 2: Gwrando, darllen, cyfieithu ac ymateb critigol ysgrifenedig
Safon Uwch (blwyddyn 2)
Uned 3: Creu Almaen Modern
– proses cychwynnol a dilynol o ailuno
– cydlyniad cymdeithasol yn yr Almaen heddiw
– symudiadau artistig a gwleidyddol
– effaith economaidd Almaen unedig
Uned 4: Amrywiaeth a Gwahaniaeth
– Mudo ac integreiddio
– hunaniaeth diwylliant a ymleiddio
– cyfoethogi diwylliannol a dathlu gwahaniaeth
Lefel A (yr uchod ynghyd â 3 uned bellach)
A2 Uned 3: Siarad
A2 Uned 4: Gwrando, darllen a chyfieithu
A2 Uned 5: Ymateb critigol a dadansoddiadol ysgrifenedig
Mae’r gallu i siarad iaith arall yn ased pendant. Mae ieithoedd tramor cyfoes yn cael eu defnyddio’n gyffredin ym myd masnach, busnes rhyngwladol, diplomyddiaeth, y byd celf, gwasanaethau ariannol, y cyfryngau, twristiaeth a thechnoleg.
Mae iaith dramor cyfoes yn berthnasol ac yn ddefnyddiol ar gyfer nifer o gyrsiau gradd, megis: Y Gyfraith, Cyrsiau Meddygol, Astudiaethau Busnes, Marchnata / Rheoli Allforio, Newyddiaduraeth Astudiaethau’r / Cyfryngau, Addysg a Thwristiaeth.
6 TGAU A*-C, gan gynnwys B neu’n uwch mewn Almaeneg (haen uwch).