Cyfraith Gymhwysol BTEC Lefel 3
Cyfwerth
1 Lefel A neu Cyfwerth
Cymhwyster
Diploma Atodol BTEC Lefel 3
Canlyniadau
D* 84% (2019)
Bwrdd Arholi
BTEC Pearson
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ar gyfer Tystysgrif mewn Cyfraith Gymwysol sy’n cynnwys 2 uned.
Uned 1: Datrys Anghydfod mewn Cyfraith Sifil
Mae’r uned hon yn ymdrin â chysyniadau allweddol mewn cyfraith sifil, megis hierarchaeth y llys, cyllid cyfreithiol, cynrychiolaeth yn y llys, a’r dewisiadau eraill yn lle mynd i’r llys. Asesir yr uned hon yn allanol, a chaiff ei gosod a’i marcio gan Pearson.
Uned 2: Archwilio Agweddau ar Gyfraith Trosedd a’r System Gyfreithiol
Bydd dysgwyr yn dysgu sut mae cyfreithiau’n cael eu creu a’u dehongli o fewn y system gyfreithiol yn Lloegr a Chymru, a sut i gymhwyso’r gyfraith mewn nifer o sefyllfaoedd penodol. Asesir yr uned hon yn fewnol trwy gwblhau sawl aseiniad.
Wrth symud ymlaen i’r ail flwyddyn, bydd y Dystysgrif Estynedig mewn Cyfraith Gymhwysol yn cwmpasu 2 uned arall. Uned 3: Cymhwyso’r Gyfraith; sy’n ymdrin ag effaith rhai troseddau neilltuol (asesir yn allanol), ac Uned 4: Agweddau ar Gyfraith Teulu; sy’n ymdrin â’r cyfreithiau sy’n llywodraethu bod yn rhiant a chyfrifoldeb rhiant (asesir drwy aseiniadau)
5 gradd C TGAU, neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, gan gynnwys gradd C yn TGAU Saesneg.
Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc disgyrsiol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.