Mae’r cwrs Mathemateg Dwbl yn cynnwys cwblhau cwrs Mathemateg Lefel A mewn un flwyddyn, yn arwain at gwblhau’r cwrs Mathemateg Pellach Lefel A yn yr ail flwyddyn.

Efallai bydd rhai myfyrwyr yn astudio Mathemateg Dwbl ond byddan nhw’n dymuno cwblhau’r cyfan o Lefel A Mathemateg mewn blwyddyn.

Bydd unrhyw fyfyriwr sy’n bwriadu astudio am radd cysylltiedig â Mathemateg (peirianneg, gwyddoniaeth, cyllid/economeg ayb. yn ogystal â Mathemateg ei hun) yn elwa’n fawr o astudio Mathemateg pellach o leiaf at lefel UG. Mae cymwysterau Mathemateg Pellach yn fawr eu bri ac yn uchel eu parch gan brifysgolion.