Trosolwg Gwyddoniaeth Feddygol

Mae’r Diploma Gwyddor Feddygol yn gyfwerth ag un Lefel A. Mae’r cwrs yn ymdrin â chynnal iechyd ac atal a thrin clefydau. Bydd dysgwyr yn caffael y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau mewn egwyddorion gwyddonol allweddol i gefnogi cynnydd i addysg uwch neu gyflogaeth mewn meysydd fel gwyddorau ffisiolegol neu wasanaethau labordy clinigol. Mae’r cymhwyster yn cwmpasu iechyd, ffisioleg, ffarmacoleg, mesur ffisiolegol, profion clinigol ac ymchwil feddygol.

Mae gwyddonwyr meddygol ar flaen y gad o ran gwasanaethau gofal iechyd, gan eu bod yn hanfodol wrth wneud diagnosis o glefydau, pennu effeithiolrwydd triniaethau a chwilio am welliannau newydd. Bydd y Diploma hwn yn galluogi cynnydd i addysg uwch i ystod o raglenni Gwyddor Gymhwysol, fel biowyddoniaeth, gwyddorau bywyd, a ffisioleg.


  • Tystysgrif: Blwyddyn gyntaf y cwrs (50%)


    • 1 arholiad
    • 2 dasg dan reolaeth sy’n cael eu hasesu’n fewnol

    Uned 1: Iechyd Dynol a Chlefydau
    25% Arholiad Ysgrifenedig 

    Cynnwys: Egwyddorion Biolegol, Anatomi a ffisioleg ddynol, Ffordd o fyw ac Iechyd, Iechyd dynol.

    Uned 2: Technegau Mesur Ffisiolegol
    12.5% Asesiad dan reolaeth sy’n cael ei farcio’n fewnol

    Cynnwys: Swyddogaeth profion mesur ffisiolegol, gweithio gyda chleifion, gwneud profion mesur ffisiolegol, a riportio iechyd y claf.

    Uned 3: Dulliau Ymchwil Gwyddoniaeth Feddygol
    12.5% Asesiad dan reolaeth sy’n cael ei farcio’n fewnol

    Cynnwys: Deall egwyddorion ymchwilio i epidemioleg, casglu data ymchwil, dadansoddi data, a chyfathrebu canlyniadau’r ymchwil.

     

    Diploma: Ail Flwyddyn y cwrs  (50%)


    • 1 tasg dan reolaeth sy’n cael ei hasesu’n fewnol
    • 1 tasg ymarferol sy’n cael ei hasesu’n fewnol
    • 1 arholiad synoptig

    Uned 4: Meddyginiaethau a Thrin Clefydau
    25% Asesiad dan reolaeth sy’n cael ei farcio’n fewnol

    Cynnwys: Rheoli meddyginiaethau, ffarmacoleg feddygol, egwyddorion trin canser, a gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol.

    Uned 5: Technegau Labordy Clinigol
    12.5% Asesiad dan reolaeth wedi’i farcio’n fewnol 

    Cynnwys: Egwyddorion profion clinigol, gwneud profion clinigol mewn labordy, a phrosesu data gan ddefnyddio profion clinigol.

    Uned 6: Astudiaeth Achos Meddygol 
    12.5% Arholiad Ysgrifenedig

    Cynnwys: Arholiad synoptig terfynol sy’n seiliedig ar gynnwys yr holl unedau. Astudiaeth achos ar glefyd neilltuol.

Mae gwyddonwyr meddygol ar flaen y gad o wasanaethau gofal iechyd, gan eu bod yn hanfodol wrth wneud diagnosis o glefyd, pennu effeithiolrwydd triniaethau a chwilio am feddyginiaethau newydd. Bydd y Diploma yn galluogi dilyniant i Addysg Uwch i amrywiaeth o raglenni Gwyddoniaeth Gymhwysol, megis gwyddoniaeth fiofeddygol, gwyddorau bywyd, a ffisioleg.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys gradd CC mewn Gwyddoniaeth Ddwbl NEU radd C ym Mioleg. Rhaid hefyd cael gradd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg Iaith.

Gellir defnyddio gradd C mewn pwnc traethodol megis Hanes, Astudiaethau Crefyddol neu Lenyddiaeth Saesneg yn lle Saesneg.