Trosolwg Seicoleg Lefel A

Mae Lefel A Seicoleg yn bwnc hynod ddiddorol sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddeall ymddygiad dynol a’r rhesymau y tu ôl i’n gweithredoedd. Mae’r cwrs yn ymdrin ag amrywiol ddulliau o Seicoleg, a byddwn yn astudio darnau allweddol o ymchwil a phynciau o feysydd fel ymddygiad troseddol, tystiolaeth llygad-dystion, ffobiâu, Awtistiaeth, perthnasoedd, a therapïau fel seicolawdriniaeth. Bydd dysgwyr hefyd yn astudio dulliau ymchwil ac yn gwella eu sgiliau rhifedd presennol trwy ddadansoddi data a dehongli’r hyn y mae’n ei ddatgelu am yr ymddygiad dynol a archwiliwyd mewn ymchwil.

Mae astudio Seicoleg yn ddefnyddiol ar gyfer ystod amrywiol o gyrsiau prifysgol  a gyrfaoedd, gan gynnwys seicoleg glinigol, seicoleg fforensig a throseddol, cwnsela, nyrsio iechyd meddwl, darlithydd mewn Seicoleg, gwaith cymdeithasol, a seicoleg addysgol.

Mae 100% o’r cwrs hwn yn cael eu asesu trwy arholiadau.  Mae’r ddau arholiad yn cyfrannu 40% tuag at y gradd derfynol, tra bod yr arholiadau Safon Uwch yn cyfrannu’r 60% sy’n weddill. Bydd arholiadau ym mis Mai/Mehefin pob blwyddyn.

Lefel UG (blwyddyn 1)

Uned 1: Seicoleg: O’r Gorffennol i’r Presennol
Mae’r uned hon yn cyflwyno’r pum prif ddull seicolegol: Y Biolegol, Ymddygiadol, Gwybyddol, Seicodeinamig a Seicoleg Gadarnhaol.

Uned 2: Seicoleg: Defnyddio Cysyniadau Seicolegol
Mae’r uned hon yn cyflwyno dulliau ymchwil gan gynnwys dewis cyfranogwyr, cynnal ymchwil diogel a moesegol, a dylunio astudiaethau ymchwil seicolegol. Mae’r uned hefyd yn cynnwys dadansoddiad ystadegol gan gynnwys dehongli a chyfrifo data rhifiadol.

Safon Uwch (blwyddyn 2)

Uned 3: Seicoleg – Goblygiadau yn y Byd Real
Disgwylir i ddysgwyr gymhwyso’r wybodaeth a dealltwriaeth o uned un i dri ymddygiad dynol o’r canlynol: Ymddygiad Caethiwus, Ymddygiadau Sbectrwm Awtistig, Ymddygiad Troseddol a Sgitsoffrenia. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn astudio pum mater dadleuol mewn Seicoleg.

Uned 4: Seicoleg – Dulliau Ymchwil Cymhwysol
Mae’r uned hon yn datblygu ymhellach ar y dealltwriaeth o ddulliau ymchwil a astudiwyd yn y flwyddyn UG gan gynnwys y defnydd ymarferol o ddau ddull ymchwil i astudiaethau ymchwil Seicolegol yn y dosbarth lle bydd myfyrwyr yn casglu data ac yn dehongli ei ystyr.

Bydd astudio Seicoleg ar gyfer Safon Uwch yn ddefnyddiol ar gyfer ystod o gyrsiau prifysgol a gyrfaoedd gan gynnwys: seicolegydd clinigol, seicolegydd fforensig a troseddol, cwnsela, nyrsio iechyd meddwl, darlithydd, gweithiwr cymdeithasol a seicolegydd addysgiadol.

6 gradd C TGAU, gan gynnwys 1 gradd B yn TGAU Gwyddoniaeth a gradd C yn TGAU Mathemateg. Mae gradd C mewn Saesneg hefyd yn cael ei argymell yn fawr ond nid yw’n ofynnol.