Mae’r cymwysterau Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach lefel 2 ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno ennill gwybodaeth a sgiliau sy’n eu paratoi i symud ymlaen i astudio ar lefelau uwch.

Nodau’r cymwysterau yw:

  • datblygu sgiliau i astudio ar lefel 3
    datblygu ymwybyddiaeth o gyfleoedd dilyniant i yrfaoedd neu astudiaethau pellach.

Mae’n cyfateb i dri TGAU ac yn cynnwys ystod o fodiwlau sy’n caniatáu i ddysgwyr ddysgu sgiliau, a chael blas ar gyrsiau y gallent fod am eu hastudio ar Lefel 3. Mae’r cwrs yn cynnwys modiwlau allweddol sgiliau astudio, rhifedd, llythrennedd a digidol llythrennedd, ac yna modiwlau ar draws pynciau amrywiol fel busnes, y gyfraith, cymdeithaseg, y cyfryngau ac iechyd a gofal cymdeithasol.