Hyfforddi a Datblygiad Chwaraeon BTEC Lefel 3
Cyfwerth
2 Lefel A neu Cyfwerth
Cymhwyster
Diploma BTEC Lefel 3
Canlyniadau
D*D* 46.7%
Bwrdd Arholi
BTEC Pearson
Mae Diploma Lefel 3 BTEC mewn Chwaraeon yn gyfwerth â 2 cymhwyster Safon Uwch a 120 credyd. Bwriad y cwrs yw rhoi i fyfyrwyr gyflwyniad i, a datblygu gwybodaeth o sgiliau sy’n ymwneud â’r chwaraeon a diwydiannau ffitrwydd.
Amcanion y cwrs yw: i ysgogi a chynnal diddordeb myfyrwyr mewn, a mwynhad o’r diwydiant chwaraeon; datblygu sgiliau chwaraeon ymarferol mewn amrywiaeth o chwaraeon; darparu cwrs priodol ar gyfer y rhai sy’n dymuno naill ai symud i gyflogaeth neu i fynd ymlaen i gymwysterau lefel uwch, megis cyrsiau HND neu radd.
Mae pob uned yn cael eu hasesu a’u graddio ‘llwyddo’, ‘teilyngdod’, neu ‘rhagoriaeth’ a mae gradd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster yn cael ei wobrwyo.
Mae’r diploma yn cynnwys tri ar ddeg o unedau a gyflwynir dros ddwy flynedd.
Unedau Orfodol
Rhaid i wyth uned gael eu darparu o’r canlynol:
Uned 1:Egwyddorionanatomeg a ffisioleg
Uned 2: Ffisioleg ffitrwydd
Uned 3:AsesuRisg
Uned 4: Hyfforddiant ffitrwydd a rhaglennu
Uned 5: Hyfforddi chwaraeon
Uned 6: Datblygu chwaraeon
Uned 7: Profion ffitrwydd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff
Uned 8: Chwaraeon Tîm Ymarferol
Uned 9: Chwaraeon Unigol Ymarferol
Unedau Opsiynol
Uned 10:GweithgareddauAntur ac AwyrAgored
Uned 11: Maeth Chwaraeon
Uned 13: Arweinyddiaeth
Uned 14:Ymarfercorff, iechyd a ffordd o fyw
Uned 22: Rheolau, rheoliadau a gweinyddu
Uned 26: Profiad gwaith
Bwriad y cwrs yw cyflwyno fyfyrwyr i’r diwydiant chwaraeon, gan eu galluogi i ymchwilio i ystod o feysydd astudio.
5 gradd C TGAU, neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol. Os yw wedi’i gymryd, teilyngdod neu uwch mewn BTEC Lefel 2 Chwaraeon.