Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i fynegi eu hunain yn y Gymraeg, ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd yna hefyd gyfle i ysgrifennu’n greadigol, darllen yn annibynnol, ymateb i destunau gwahanol ac i werthfawrogi ffurfiau llenyddol.

Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ymarfer siarad Cymraeg gyda’r athro, a myfyrwyr eraill yng Nghymru. Efallai y bydd cyfle i ymweld â Nant Gwrtheyrn, Canolfan Iaith Genedlaethol yng Ngogledd Cymru ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, ee Eisteddfodau.