Mae Coleg Dewi Sant yn lansio ei ymgyrch codi arian flynyddol ar gyfer Crisis at Christmas yr wythnos hon.

Bob blwyddyn, mae Crisis at Christmas yn agor ei ddrysau i bobl ddigartref, gan gynnig cynhesrwydd, gofal iechyd, bwyd a chwmni y mae mawr ei angen.

Ar hyn o bryd, mae miloedd o bobl sydd ar reng flaen tlodi mewn perygl o gael eu gwthio i ddigartrefedd. Eleni hyd yn oed yn fwy nag erioed, gyda chostau byw cynyddol, mae’r ystadegau trist yn adrodd bod hyd yn oed pobl sy’n gweithio yn dod yn ddigartref, gan fod yn rhaid iddynt wneud dewisiadau annychmygadwy rhwng bwyta, gwresogi, neu gadw to uwch eu pennau.

Dros y 4 blynedd diwethaf, mae’r coleg wedi codi £6,500, ac rydym yn anelu at ychwanegu £1,500 arall eleni drwy’r holl syniadau codi arian gwych a grëwyd gan ein myfyrwyr.

Wythnos nesaf bydd Cwis Deallusion Nadolig blynyddol hefyd yn cael ei lansio ar gyfer yr elusen – Pa fyfyrwyr fydd yn gwybod fwyaf am y Nadolig? Darganfyddwch wythnos nesaf a chymerwch ran!

Diolch yn fawr am eich holl gyfraniadau hyd yn hyn. Rydym wedi gwneud dechrau gwych gyda £400 wedi’i godi’n barod.

Os hoffech wybod mwy am yr hyn sy’n digwydd yn ystod codi arian Crisis at Christmas, siaradwch â’ch Tiwtor Bugeiliol, neu Mrs P Jones.