Astudio’r Gymraeg 

Gall myfyrwyr astudio Cymraeg (ail iaith) at lefel UG a Safon Uwch.  

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Students on trip to see Welsh community in Patagonia.

Astudio yn Gymraeg 

Caiff pob myfyriwr Cymraeg y dewis i astudio Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymerwch y cyfle hwn i ddefnyddio’ch sgiliau iaith a pharhau i’w datblygu drwy gydol eich amser yn y coleg.  

Cliciwch yma i weld manylion y cwrs. 

 

Dysgu Cymraeg

Gall pobl ifanc o 16-24 oed ddysgu Cymraeg am ddim ar gyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Ymunwch â chwrs ar-lein un neu ddwy waith yr wythnos, ac ychwanegu sgiliau iaith Gymraeg at eich casgliad sgiliau. 

Pa lefel? Cliciwch yma i weld pa lefel sy’n addas i chi. 

Pa gwrs? Cliciwch yma i weld y cyrsiau Cymraeg AM DDIM i chi 

a

Cyflwyno’ch gwaith yn Gymraeg

Os hoffech gyflwyno’ch gwaith yn eich pynciau eraill yn Gymraeg, mae croeso i chi wneud hynny.

Os nad yw’ch athro pwnc yn siaradwr Cymraeg caiff eich gwaith ei gyfieithu er mwyn iddynt ei ddarllen a marcio.  

Gweld copi Cymraeg o bapurau arholiad

Os yw’r bwrdd arholi’n cynnig eich arholiad yn Gymraeg, mae hawl gyda chi i dderbyn copi Cymraeg o’r papur wrth i chi sefyll yr arholiad.

Gall hyn fod o fudd yn enwedig os ydych chi wedi astudio’r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg yn y gorffennol. 

Geirfa eich pynciau

Dewch o hyd i eirfa arbenigol eich pynciau yn Gymraeg a Saesneg yma.

Astudiaethau Bugeiliol yn Gymraeg

Caiff siaradwyr Cymraeg gynnig bod mewn dosbarth Bugeilio gydag athro Cymraeg.

Fel arfer mae un dosbarth Bugeilio Cymraeg ym mhob blwyddyn. 

Cymerwch y cyfle hwn i feithrin eich sgiliau iaith a derbyn cymorth bugeiliol yn yr iaith drwy gydol eich amser yn y coleg.