Cefnogaeth Dysgu yn Gymraeg
Gall dysgwyr sy’n derbyn cymorth gan Gynorthwyydd Cefnogi Dysgu yn ystod eu hastudiaethau dderbyn y cymorth hyn gan siaradwr Cymraeg os dymunant. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os yw’r dysgwr yn trosglwyddo i’r coleg o ysgol Gymraeg.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ein tîm cefnogi dysgu
Cyfathrebu â’r coleg yn Gymraeg
Caiff pob myfyriwr, a rhieni neu warcheidwaid y myfyriwr, y dewis o dderbyn cyfathrebiadau unigol gan y coleg yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
Dylai’r coleg nodi eich dewisiadau iaith wrth i chi gofrestru.
I newid eich dewis iaith ar gyfer cyfathrebu cysylltwch â y Tîm Bugeiliol
Eich hawliau iaith
Fel myfyriwr mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, mae hawl gyda chi i wasanaethau Cymraeg yn unol â Safonau’r Iaith Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Mae’r coleg yn croesawu’r dyletswydd i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a gellir darllen ein Polisi’r Iaith Gymraeg
a’r Polisi Defnyddio’r Iaith yn Fewnol ar ein gwefan
Sut i gwyno
Os oes sylwadau, syniadau neu bryder gyda chi am y ffordd mae’r coleg yn defnyddio’r Gymraeg, gofynnwn i chi yn y lle cyntaf i gysylltu â Rachel Singleton, Dirprwy Bennaeth, ar rsingleton@stdavidscollege.co.uk.
Os hoffech wneud cwyn cliciwch yma os gwelwch yn dda.