Cymraeg bob dydd
Rydyn ni eisiau clywed Cymraeg yn y coleg bob dydd! Mae pawb- staff a myfyrwyr- yn cael cynnig cortyn gwddf gyda symbol Siarad Cymraeg neu Ddysgu Cymraeg. Gwisgwch eich cortyn Cymraeg, edrychwch am y symbol a defnyddiwch eich Cymraeg gyda’r person sy’n ei wisgo.
Dwyieithrwydd o gwmpas y coleg
Bydd pob arwydd, poster, rhybudd a chyhoeddiad gweledol sy’n tarddu o’r coleg yn Gymraeg a Saesneg.
Mae pob polisi a gweithdrefn a phob tudalen o’n gwefan ar gael yn Gymraeg.
Wrth ddefnyddio Linc, ein rhwydwaith fewnol, cliciwch ar y botwm iaith er mwyn gweld y cynnwys yn Gymraeg.

Clwb Clebran
Mae myfyrwyr a staff yn dod at ei gilydd i sgwrsio’n anffurfiol yn Gymraeg dros ginio unwaith yr wythnos. Dewch i sgwrsio, neu hyd yn oed i wrando, a bydd cefnogaeth i chi ymarfer os dych chi’n dysgu.
Mae’r Clwb bob dydd Llun am 13.05 yn ystafell 2.18 yn y Brif Adeilad.
Os gwelwch yn dda bwytewch eich cinio cyn dod, does dim bwyd i fod yn yr ystafell gynadledd.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mared Whelan ar Teams neu ar ebost mwhelan@stdavidscollege.ac.uk
Dathlu’r Gymraeg a Chymreictod
Fel coleg Cymreig yng Nghaerdydd, Prifddinas Cymru, rydyn ni’n dathlu’n Cymreictod ac yn annog pawb i ddefnyddio’r hyn o Gymraeg y gallant. Rydyn ni eisiau i’n myfyrwyr gadw a gwella eu sgiliau Cymraeg yn ystod eu hamser yn y coleg, ac i fagu balchder yn eu hunaniaeth, waeth bynnag yw eu cefndir neu lefel iaith.
Ar 15 Hydref mae’n Ddiwrnod Shwmae! Cofiwch ddweud Shwmae pan fyddwch yn cwrdd â rhywun! Edrychwch mas am y symbol Cymraeg ar gortyn gwddf y staff a’r myfyrwyr a chofiwch gallwch chi eu cyfarch yn Gymraeg bod dydd!
Mae ein cymuned yn gyfoethog ac aml-ddiwylliannol a dathlwn ein holl genhedloedd, diwylliannau ac ieithoedd, yn cynnwys Cymru a’r Gymraeg, ar Ddiwrnod Diwylliant.
Dewi Sant yw Nawddsant ein coleg, yn ogystal â nawddsant Cymru! Rydym yn dathlu Dydd Gwyl Dewi gyda chinio arbennig ac Offeren bob blwyddyn ar 1 Mawrth.