
Mae Academi Rygbi Dewi Sant yn falch o gyhoeddi cyfres o ddatblygiadau newydd cyffrous, diolch i gefnogaeth hael ein noddwyr. I baratoi at y tymor sydd i ddod, rydym yn darparu popeth fydd angen i hyfforddi a pherfformio am y gorau.
Cit Rygbi Dewis Sant ar gyfer Elusen Canser Maggie’s
Noddwyr y Cit
Diolch yn fawr i Evans Electrical, Aerfin, Fizz N Flour Pizzeria, Ricoh, Office Visions, a Dudden Law Solicitors. Mae eu cefnogaeth wedi galluogi inni gael gwisg newydd o safon uchel, er mwyn i’r chwaraewyr edrych yn barod a theimlo’n hyderus ar y cae. Byddant yn cynrychioli’r coleg mewn cit cartref porffor a chit i ffwrdd melyn.
Cafodd cit arbennig ei greu i’w brynu er mwyn cefnogi Elusen Canser Maggie’s. Aeth 50% o’r elw at Maggie’s a’r gweddill i gefnogi datblygiad Tîm Rygbi Dewi Sant.
Noddwyr Cit Rygbi Dewi Sant (Evans Electrical, AerFin)
Ein Noddwyr Offer
Mae RPA Group, Castell Howell, Teacher Active, a Chyfreithwyr Dudden Law wedi bod yn allweddol wrth inni uwchraddio’n hadnoddau hyfforddiant. Gyda’u cymorth, rydym wedi buddsoddi mewn offer newydd o safon proffesiynol, i wella’n sesiynau hyfforddi rygbi ac i gefnogi datblygiad y chwaraewyr.
Meddai’r Athro Busnes, Mr Hopkins, sydd wedi bod yn sefydlu’r cysylltiadau hyn â noddwyr:
“Mae pob un o’n cyflenwyr a noddwyr (ond am un) o Gaerdydd neu wedi’u sefydlu yng Nghaerdydd. Hefyd, rydyn ni wedi trefnu i siop goffi leol fynychu ein gemau y tymor nesa. Felly bydd mantais ychwanegol i’r economi leol. Mae Evans Electrical hefyd wedi cynnig cyfle i’n myfyrwyr ymgeisio ar gyfer prentisiaethau. Daeth Cyfreithwyr Dudden Law i’r ffair gyrfaoedd i siarad â’n myfyrwyr ynglŷn â gyrfaoedd yn y gyfraith.”
Noddwyr Cit Rygbi Dewi Sant (Fizz n Flour, Ricoh, Office Visions, Dudden Law Solicitors)
Maethegwr
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein partneriaeth â Nutrivend, fydd yn darparu maethegwr ar gyfer y tymor i ddod. Bydd y fenter hon yn helpu i addysgu’n myfyrwyr am bwysigrwydd deiet dda a maethlon, a’i ganlyniadau sy’n gallu gwella eu perfformiad ar, ac oddiar, y cae.
Yn ogystal, hoffem gydnabod Campfa Dave’s Gym yn y Rhath am ei rôl alweddol yn ein cynnydd, gan iddyn nhw ein helpu i gaffael yr offer ffitrwydd gorau posibl.
Mae’n rhaglen a strwythr yn datblygu’n gyflym, ac edrychwn ymlaen at weld gêm gyntaf ein tîm ac adolygu eu perfformiad. Fodd bynnag, gyda’r fath seiliau cadarn, rydym yn hyderus bod Academi Rygbi Dewi Sant yn barod iawn am ei thymor gyntaf.
Diolch yn fawr i bob un o’n noddwyr a chefnogwyr- mae eich cyfraniadau chi’n ein helpu i adeiladu rhywbeth arbennig iawn ar gyfer Academi Rygbi Dewi Sant a chymuned y coleg.