
Mae timoedd chwaraeon Coleg Dewi Sant ar eu gorau o bosib ers blynyddoedd.
Dathlodd y Gwobrau Chwaraeon gampau eithriadol ein timoedd chwaraeon ar ddiwedd blwyddyn ryfeddol eleni.
Enillodd ein Hacademi Pêl-droed y gynghrair (ni yw’r pencampwyr!) cafodd ein tîm pêl-rwyd rediad da, ac mae’r academi pêl-fasged wedi tyfu i’r mwyaf erioed ac yn parhau i weithredu’n genedlaethol. Ar ben hyn, bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn fawr i rygbi Coleg Dewi Sant, ar ôl deg mlynedd heb dîm rygbi.
Dathlodd y garfan bêl-rwyd dymor eithriadol, gyda Mei Saunders yn derbyn y wobr fawr ei bri Chwaraewr y Flwyddyn, ar ôl pleidlais gan ei chyd-chwaraewyr. Lucie Sturgess gafodd anrhydedd y Chwaraewr wedi Gwella Fwyaf, gan iddi arddangos datblygiad sylweddol a chael argraff ar y cwrt chwarae. Aeth Gwobr yr Hyfforddwr i Emily Blunt, i dynnu sylw at ei chysondeb, agwedd a dylanwad drwy gydol y flwyddyn.
Mewn pêl-fasged, enwyd David Folorunsho yn Chwaraewr wedi Gwella Fwyaf, i gydnabod ei dyfiant, newid ffocws a phresenoldeb cynyddol ar y tîm. Curtis Walters enillodd y wobr Chwaraewr Amddiffynnol Gorau, oherwydd ei rôl allweddol yng ngwytnwch y tîm. Y Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr oedd Kobe Nhyira Amissah, a arweiniodd yn arbennig drwy gydol y tymor, gan ddangos bod sgorio pwyntiau yn un peth, ond bod yn arweinydd oddi-ar y cwrt yn rhywbeth arall.
Aeth y wobr Chwaraewr y Chwaraewyr o dîm pêl-droed y merched at Sienna Stone. Ar yr un pryd, Aimee Deacon hawliodd Chwaraewr y Flwyddyn am ei pherfformiad eithriadol a’i chyfraniad at lwyddiant y tîm. Mae tîm y merched wedi bod yn flaenllaw eleni, ac mae’n wych i weld peldroedwyr ifanc benywaidd yn ffynnu yma yng Ngholeg Dewi Sant.
Yn nhîm Pêl-droed Rheng 2 y bechgyn, cafodd Josh Bobby gydnabyddiaeth gan ei gyd-chwaraewyr fel Chwaraewr y Chwaraewyr, tra bod Arios Atar yn cael ei anrhydeddu yn Chwaraewr y Flwyddyn am ei ymrwymiad i’r tîm.
Yn y pêl-droed Rheng 2 i fechgyn, Logan Bianchi Jones enillodd barch ei gyd-chwaraewyr gyda gwobr Chwaraewr y Chwaraewyr. Aeth anrhydedd Chwaraewr y Flwyddyn i Camille Miteleji am ei allu a llwyddiant wrth sgorio goliau. Cyflwynwyd y Wobr Blaen y Gad – am arweinyddiaeth, ymrwymiad a dylanwad- i Alex Lidgey.
Roedd y Gwobrau Chwaraeon yn gyfle perffaith i’r bechgyn arddangos Tlws y Gynghrair- y tro cyntaf yn hanes Coleg Dewi Sant i’r tîm pêl-droed ennill y gynghrair.
Cawsom y cyfle i dynnu sylw pawb at lwyddiannau unigol myfyrwyr sydd wedi serennu yn eu campau eu hun eleni, yn cynnwys Amy Partridge, a gafodd flwyddyn wych gyda Hoci Cymru, Harry ac Alfie Osbourne, a gynrychiolodd Golegau Prydain yn y Pencampwriaethau Traws-gwlad, ac Abel Mwenera sydd wedi bod yn allweddol fel canolwr cefn gyda Phêl-droed Colegau Cymru, gan hyd yn oed gapteinio’r ochr yn yr Eidal.
Edrychwn ni mlaen nawr at y tymor nesa, gyda thimoedd chwaraeon Coleg Dewi Sant yn debyg o dyfu mewn nerth a niferodd wrth gystadlu yn erbyn colegau ac ysgolion drwy Gymru a’r DU.