Day of the Girl, Jaime taking over for Mark Drakeford for the day.

Ym mis Rhagfyr 2011, mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig gynnig a fyddai’n creu Diwrnod Rhyngwladol yr Eneth; ffordd o amlygu hawliau merched a’r heriau y mae merched yn eu hwynebu. Ond mae hefyd yn gyfle i rymuso merched. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Eneth, mae António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, wedi dweud ei bod yn bwysicach nawr nag erioed i genhedloedd ymrwymo i gydweithio i ganiatáu i ferched arfer eu hawliau a chwarae rhan gyfartal mewn cymdeithasau – gan ychwanegu “mae buddsoddi mewn merched yn buddsoddi yn ein dyfodol cyffredin.”

Yn ystod y deng mlynedd ers y Diwrnod Rhyngwladol yr Eneth cyntaf, mae llywodraethau ac unigolion ledled y byd wedi rhoi mwy o sylw i’r materion sydd o bwys i ferched, ac mae mwy o gyfleoedd wedi codi i ferched gamu i’r llwyfan byd-eang. Ond mae cyfyngiadau yn parhau ar fuddsoddiadau mewn hawliau merched, ac felly ar eu gallu i wireddu eu llawn botensial.

Wrth nodi 10fed Diwrnod Rhyngwladol yr Eneth, trosglwyddodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ei rôl am ddiwrnod, i Jaime Clemett – myfyriwr Chweched Isaf yng Ngholeg Catholig Dewi Sant.

Yn yr un modd â diben Diwrnod Rhyngwladol yr Eneth, cymerodd Jaime yr awenau gyda’r nod o ‘godi ymwybyddiaeth o’r problemau y mae merched yn eu hwynebu’.

Mewn fideo a bostiwyd i dudalen Twitter @/PrifWeinidog, nododd Jaime ei bod yn bwysig ‘gweld merched mewn rolau arweiniol mewn gwleidyddiaeth’ ac yn ystod y dydd, cyfarfu â’r Gweinidogion Cyfiawnder Cymdeithasol ac Iechyd, Jane Hutt ac Eluned Morgan, AS.

Agorodd Jaime y gynhadledd i’r wasg am y dydd, gan drafod yr hyn roedd hi’n ei wneud, gan ddweud “rydym yn codi ein lleisiau, yn mynnu sedd wrth y bwrdd, ac yn sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed”.

Cafodd Jaime gyfle hefyd i eistedd gyda Mr Drakeford yn ystod ei baratoadau cyn Cwestiynau’r Prif Weinidog, yn ogystal â mynychu digwyddiad Taith Tlws Cwpan y Byd FIFA yn Sain Ffagan ochr yn ochr ag ef.

Wrth siarad â Newyddion y BBC, dywedodd Jaime “Mae Diwrnod Rhyngwladol yr Eneth yn ddiwrnod mor bwysig i fyfyrio, oherwydd am flynyddoedd, nid oedd gan fenywod lais. Doedd menywod ddim yn gallu pleidleisio. Roeddent yn gymeriadau yn y cefndir, ac erbyn hyn mae cymaint wedi newid. Mae menywod ar flaen y gad mewn gwledydd”.

Ysgrifennwyd gan Alexandra Tyler, Newyddiadurwr Myfyrwyr