
Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn cyhoeddi bod Mrs Lisa Newman yn gadael ei rôl fel Dirprwy Bennaeth ar 31ain o Ionawr 2025.
Roedd Lisa yn aelod hirsefydlog o gymuned y coleg, yn gweithio yn y coleg am bron i 30 mlynedd, gan gyfrannu at y genhadaeth ac at lwyddiant myfyrwyr. Mae’r coleg yn cydnabod ei hymroddiad trwy gydol ei gyrfa.
Mae’r coleg yn diolch i Lisa am ei gwasanaeth ar hyd y blynyddoedd ac yn dymuno’n dda iddi yn y dyfodol.