Prifysgol a UCAS
Mae gan UCAS lu o adnoddau a gwybodaeth neilltuol i helpu rhieni a gwarchodwyr gefnogi eu plant wrth iddynt ymgeisio i’r brifysgol.

Cyllid Myfyrwyr Cymru
Efallai y bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth eich incwm os yw eich plentyn neu’ch partner wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr. Bydd y wybodaeth isod yn helpu chi gyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y maent yn gymwys i’w dderbyn.
- Cefnogi cais eich plentyn neu’ch partner am gyllid myfyrwyr
- Gwybodaeth ar gyfer rhieni a phartneriaid

Gyrfa Cymru
Bydd angen i’ch plentyn wneud penderfyniadau pwysig ynghlych ei ddyfodol trwy gydol ei amser mewn addysg. Gall Gyrfa Cymru gefnogi chi a’ch plentyn wrth ichi bennu’r dewisiadau cywir i wireddu’i uchelgeisiau gyrfaol.
