
Daeth diwrnod mwya lliwgar y flwyddyn, Diwrnod Diwylliant 2025, ac arddangos 28 o wledydd gydag amrywiaeth amryliw o wisgoedd traddodiadol, bwydydd blasus o dros y byd, cerddoriaeth, stondinau a gorymdeithiau ffasiwn. Ar Chwefror 20, llenwodd y neuadd chwaraeon gydag amrywiaeth drydanol a lliwgar o dreftadaeth a diwylliannau, wrth i’r myfyrwyr ddathlu gyda’i gilydd.
Roedd llond y lle o gyffro wrth i fyfyrwyr a staff gofio llwyddiant ac hwyl y ddau ddigwyddiad diwetha. Roedd gwledydd o gwmpas y byd o dan sylw, gydag amrywiaeth o gyfandiroedd yn cynnwys Affrica, Asia, De America ac Ewrop.
Ychwanegodd y myfyrwyr ddetholiad o ganeuon i restr chwarae wnaeth ddosbarthu seiniau cyffrous o gwmpas y neuadd. Gorymdeithiodd Parêd Ffasiwn Diwrnod Diwylliant drwy’r dyrfa, a rannodd i greu llwybr (fel carped coch) at y prif lwyfan. Chwifiodd cannoedd o fyfyrwyr faneri a ffrwydro gyda chyffro wrth i’r gorymdeithwyr fynd am y llwyfan i ddathlu eu hamrywiaeth diwylliannol gyda môr o liw, dawnsio, baneri a gwisgoedd traddodiadol.
Gorymdaith Ffasiwn ar Ddiwrnod Diwylliant 2025
Uchafbwynt annisgwyl yr orymdaith ffasiwn oedd Y Fari Lwyd, gwisg ryfeddol a garlamodd ei ffordd i canol y llwyfan. Uwchben person wedi’i lapio mewn clogyn gwyn roedd penglog ceffyl ar bolyn. Hen draddodiad Gymreig yw hon, lle caiff y Fari ei thywys o ddrws i ddrws gan dyrfa o ddynion yn ystod dathliadau’r flwyddyn newydd, a’r Hen Galan ar Ionawr 13.
Nododd Mr Hazel a Mr Todd, a helpodd i drefnu’r digwyddiad: “Roedd yr orymdaith ffasiwn a’r perfformiadau’n wych, a darparodd fraslun dda o amrywiaeth diwylliannol a’r egni cadarnhaol sydd yma yn ein mysg yng nghymuned y Coleg.”
Y Fari Lwyd ar Ddiwrnod Diwylliant 2025
Roedd nifer o berfformiadau ar gyfer Diwrnod Diwylliant gyda Peter a Simon yn cynrychioli Nigeria gyda’u cân “Codedly”, ac Ncube a Fipaza a gynrychiolodd Dde Affrica gyda’u cân “Asijilke”. Llafarganodd criwiau o fyfyrwyr i sain egnïol a chyffrous y caneuon amrywiol, i ychwanegu at y perfformiadau yn ystod y prynhawn.
Yn ogystal â’r awyrgylch gyffrous yn y neuadd chwaraeon, cafwyl ardal dawel ar gyfer dysgwyr niwroamrywiol a myfyrwyr â sensitifrwydd synhwyraidd. Paratowyd y lle hwn ar gyfer y rhai a allai brofi’r prysurdeb a sŵn yn y neuadd yn ormodol.
Perfformiadau llwyfan yn Diwrnod Diwylliant 2025
Daeth nifer o sefydliadau allanol i ymuno â ni, gan gynnwys Gyrfa Cymru, Teithiau Ieithoedd, Prifysgol Caerdydd, Urdd Gobaith Cymru, ac Elusen Oasis, sy’n cynorthwyo ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yn ein cymunedau lleol. Yn ogystal, croesawon nifer o westeion o Radio Caerdydd, ETMAS, a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Er yr holl rialtwch, mae’r diwrnod hwn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd amrywiaeth. Nid dim ond rhannu traddodiadau ydym, ond dysgu am ein gilydd, dymchwel rhwystrau, a gwerthfawrogi natur unigryw cymuned ein coleg a’i aelodau.
Culture Day 2025 at St David’s College
Mae Coleg Dewi Sant wedi ffocysu ar wasanaethu ei gymuned erioed. Mewn blynyddoedd diweddar, daeth y gymuned yn gynyddol ddiwylliannol amrywiol, gan olygu taw Dewi Sant yw’r coleg 16-19 oed mwyaf amrywiol o ran y to myfyrwyr yng Nghymru gyfan.
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran mewn cynllunio a threfnu’r digwyddiad, yn enwedig Mr Hazel, Mr Todd a’r myfyrwyr a helpodd baratoi ac arddangos eu treftadaeth diwylliannol ar lwyfan ac ar stondinau. Mae eich ymdrechion wedi helpu i wneud y gymuned hon yn lle croesawgar i bawb.
Sefydliadau allanol ar Ddiwrnod Diwylliant 2025 yn Nhyddewi