Cyn hanner tymor, cymerodd ein Grŵp Dug Caeredin dewr ran yn eu halldaith gymhwyso Arian yn Nyffryn Gwy.
Dros dri diwrnod, aeth y myfyrwyr i’r afael â llwybrau heriol, rhoi eu sgiliau llywio ar brawf, a dangos gwaith tîm gwych a gwytnwch.

Roeddem yn ffodus i gael cyfnod o dywydd braf, gyda thri diwrnod hyfryd o heulwen, er bod tymheredd y nos yn sicr yn her!
Ddydd Gwener, cerddodd y myfyrwyr o fan ychydig y tu allan i Abaty Tyndyrn i fyny at y maes gwersylla cyntaf ger Llandeilo Bertholau.

Ar ôl diwrnod o gerdded, wynebodd y timau her ychwanegol o godi eu pebyll a pharatoi eu prydau bwyd gyda’r nos yn y tywyllwch a’r oerfel. Er gwaethaf yr amodau, llwyddodd pawb i wynebu’r her ac ymgartrefu am eu noson gyntaf o dan y cynfas.
Ddydd Sadwrn, cerddodd y myfyrwyr ar draws cefn gwlad i’r maes gwersylla nesaf ger Coleford. Roedd y llwybr yn heriol o ran llywio, gan olygu bod angen i’r myfyrwyr gydweithio, cyfathrebu’n effeithiol a defnyddio’r sgiliau yr oeddent wedi’u datblygu yn ystod eu hyfforddiant.

Gweithiodd pob un o’r timau’n dda gyda’i gilydd i gyrraedd y man gorffen.
Ar y diwrnod olaf, dilynodd y myfyrwyr lwybr ar hyd Dyffryn Gwy, gan fynd heibio i rai golygfeydd godidog, gan gynnwys y Kymin.
Roedd y golygfeydd trawiadol yn gefndir perffaith i gymal olaf eu halldaith.
Ar ôl diwrnod hir o gerdded, cyrhaeddodd y myfyrwyr y man gorffen ger Trefynwy, ar ôl cerdded tua 40km dros y tri diwrnod.

Llongyfarchiadau i’r 26 o fyfyrwyr a gwblhaodd yr alldaith! Dylent fod yn hynod falch o’u penderfyniad, eu gwaith tîm a’u cyflawniadau. Dymunwn bob lwc iddynt wrth iddynt gwblhau eu hadrannau olaf.