Emily a Sophia’n Cefnogi’r Gymuned Leol

Mae Emily a Sophia wedi dangos ymroddiad rhyfeddol, tosturi, a chefnogaeth i’r gymuned leol, gan ddarparu gofal i unigolion bregus.

Mae Emily’n treulio ei hamser tu allan i’r coleg yn gweithio i Mirus Wales, yn helpu unigolion â chanddynt anghenion dysgu. Mae hi’n canolbwyntio ar wella lles corfforol ac emosiynol y cleifion drwy gynlluniau gofal unigol. Mae sgiliau bywyd, cefnogaeth emosiynol a chorfforol ac hyrwyddo synnwyr o annibyniaeth yn rhai o’r nodau personol hyn.

Yn ogystal, mae hi’n treulio oriau ar dasgau domestig ac helpu unigolion gyda’u meddiginiaeth gan ddefnyddio siart MAR. Mae ei hyder a’i thosturi dros eraill yn tywynnu yn ei chynhaliaeth o’r gymuned leol y tu allan i’r coleg.

 

Gofal Meddygol a Phersonol

Mae Sophia’n darparu gofal personol a meddygol i unigolion bregus yn y gymuned leol. Mae ei dyletswyddau’n cynnwys trafod corfforol, cynorthwyo i drosglwyddo unigolion i mewn ac allan o’r gwely, hylendid personol, gofal anymataliaeth, a thrafod cathetrau.

Mae ei dyletswyddau’n allweddol ar gyfer glanhau unigolion a’u hamgylchedd, paratoi bwyd a diodydd, a chodi safon byw. Mae hi’n pwysleisio pwysigrwydd “gwneud cofnodion ar gyfer pob defnyddiwr ar ôl pob ymweliad i ddweud yn union beth wnes i  ac adrodd unrhyw ofid am y claf, fel cochni mewn man a allai ddatblygu’n glwyf.”  Mae disgwyl lefel uchel o fanyldeb yn yr adroddiadau hyn er mwyn sicrhau diogelwch a lles y cleifion bregus.

Mae Emily a Sophia’n dangos gofal tosturiol dros yr unigolion hyn drwy eu gwaith caled ac ymrwymiad y tu allan i’w horiau coleg.

 

Sgiliau ar gyfer y Dyfodol

Drwy eu profiadau ymarferol mae’r dysgwyr hyn wedi magu sgiliau gwerthfawr iawn fel gwrando’n astud, datrus problemau, a chydnerthedd fydd yn fuddiol iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae ymrwymiad Emily a Sophia at ddarparu gofal o safon uchel yn sicr yn mynd i’w helwa wrth iddynt ddatblygu gyrfaoedd mewn gofal iechyd, tra’n gwneud cyfraniad llesol i’r gymuned leol.

Am gefnogaeth wrth chwilio ac ymgeisio am gwaith rhan-amser, ebostiwch y launchpad ar launchpad@stdavidscollege.ac.uk.