O 6 i 11 Tachwedd, dathlodd Coleg Dewi Sant Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd Gwyrdd trwy gynnal Ffair Gyrfaoedd Gwyrdd newydd. Roedd y digwyddiad arloesol hwn wedi’i neilltuo’n gyfan gwbl i feithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd ac opsiynau gyrfa gwyrdd ymhlith myfyrwyr. Wrth i bryderon newid hinsawdd ddwysau, gyda thua 60% o bobl ifanc yn mynegi pryder (Prifysgol Caerfaddon, arolwg 2021), nod y ffair oedd amlygu’r llwybrau gyrfa amrywiol sydd ar gael mewn gwahanol feysydd, gan bwysleisio’r rôl hollbwysig y gall pob myfyriwr ei chwarae wrth lunio dyfodol cynaliadwy.

Gwnaeth y ffair, a oedd ar agor i holl fyfyrwyr Coleg Dewi Sant sy’n archwilio mynediad i brifysgol, prentisiaethau, cyflogaeth, neu sy’n ystyried cyfleoedd yn y dyfodol, ddenu tua 600 o gyfranogwyr a oedd yn ymgysylltu ag arddangoswyr. Roedd cymysgedd deinamig o brifysgolion a chwmnïau yn cymryd rhan, gan greu llwyfan bywiog i fyfyrwyr archwilio a chysylltu ag opsiynau gyrfa gwyrdd posibl.

Manteisiodd prifysgolion blaenllaw megis Prifysgol De Cymru, Prifysgol Met Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Abertawe ar y cyfle i arddangos eu graddau â ffocws gwyrdd. Mae enghreifftiau yn cynnwys Prifysgol De Cymru yn cyflwyno ffasiwn gynaliadwy, Prifysgol Met Caerdydd yn tynnu sylw at hamdden a thwristiaeth cynaliadwy, Sefydliad Arloesedd Sero Net Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn hyrwyddo graddau Gwyddor yr Amgylchedd a Bioleg y Môr.

Ychwanegodd cwmnïau blaenllaw, gan gynnwys Mott McDonald, EDF Energy, Cymdeithas Adeiladu Principality, a’r entrepreneur Zoe Binning, agwedd ymarferol at y ffair. Cynhwysodd Mott McDonald bensetiau VR i ddarlunio safleoedd adeiladu, tynnodd EDF Energy sylw at gyfleoedd yn Hinckley Point C, rhannodd Cymdeithas Adeiladu’r Principality fentrau cynaliadwyedd ar gyfer canghennau a’r pencadlys, ac arddangosodd Zoe Binning ei busnes digwyddiadau cynaliadwy. Gwnaeth y ffair hefyd groesawu cwmnïau peirianneg megis Hoare Lea a SD Solutions, cwmnïau adeiladu megis Tilbury Douglas, Encon, a Galliford Try, penseiri o Powell Dobson a Stride Treglown, a sefydliadau megis y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a Dŵr Cymru.

Rydym yn diolch o galon i’r holl arddangoswyr a roddodd o’u hamser i ysbrydoli ac addysgu myfyrwyr Coleg Dewi Sant. Mae eich cyfraniadau wedi chwarae rôl ganolog wrth lunio gyrfaoedd gwyrdd y genhedlaeth nesaf, gan feithrin ymrwymiad i gynaliadwyedd a stiwardiaeth amgylcheddol.

Llwyddodd Ffair Gyrfaoedd Gwyrdd Coleg Dewi Sant i bontio’r bwlch rhwng myfyrwyr a chyfleoedd gyrfa gwyrdd. Trwy arddangos ystod amrywiol o opsiynau o brifysgolion mawr eu parch a chwmnïau arweiniol, gwnaeth y digwyddiad ysbrydoli a grymuso myfyrwyr i gyfrannu’n ystyrlon at ddyfodol cynaliadwy ein planed. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant ysgubol.