Bu’r Gymdeithas Ffilipinaidd yn arddangos ysbryd twymgalon yr wyl gan ddod â’r Nadolig i ysgol yn Ynysoedd y Philippines drwy roddi’r elw a godwyd yn y Farchnad Nadolig.

Roedd stondin gacennau’r Gymdeithas yn boblogaidd ymhlith staff a myfyrwyr a chodwyd dros £200 mewn elw. Gydag arlwy o ddanteithion melys ynghyd ag awyrgylch fywiog a chroesawgar, dangosodd y Gymdeithas unwaith eto pam y mae’n un o glybiau mwyaf bywiog a chynhwysol y coleg.

Yn ogystal â phobi eu nwyddau eu hunain, cydweithiodd y Gymdeithas gyda busnesau Ffilipinaidd lleol i gynnig danteithion Ffilipinaidd gan ychwanegu cyffyrddiad diwylliannol arbennig i’r stondin.

Rhoddwyd yr elw i ysgol gynradd Gosoon yng Ngharmen, Agusan del Norte,  Ynysoedd y Philippines, a diolch i gyfraniad hael y Gymdeithas Ffilipinaidd, roedd yr ysgol yn gallu darparu eitemau angenrheidiol, llyfrau lliwio, anrhegion a byrbrydau i ddisgyblion meithrin.

Mae Carmen, sy’n fwrdeistref arfordirol yn Caraga, Mindanao, yn enwog am ei thirwedd ffrwythlon yn ogystal â hinsawdd coedwig drofannol, ac o ganlyniad mae’n ardal sy’n llawn bywyd ac yn rhan hardd o Ynysoedd y Philippines.

Mae llwyddiant y stondin gacennau yn adlewyrchu nid yn unig haelioni ac ysbryd gymunedol y coleg ond hefyd ein ymroddiad i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau eraill.

Mae’r Gymdeithas Ffilipinaidd yn ymestyn diolch o waelod calon i bawb sydd wedi cefnogi’r achos, p’un ai drwy roddion neu drwy fwynhau cynnyrch y stondin. Mae pawb a oedd ynghlwm â’r achos wedi dangos esiampl wych o ddangos ystyriaeth tuag at eraill ac o hwyl y Nadolig – Da iawn chi.