Teithiodd grŵp o’n dysgwyr i Ffrainc i ymweld ag Ysgol Uwchradd Lycée ar gyfer cyfnewid diwylliannol, gan ddarparu profiad unigryw i’r myfyrwyr. Wedyn ym mis Mawrth 2024, ymwelodd myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Lycée â Choleg Dewi Sant fel rhan o gynllun Taith.
Dechreuodd antur y myfyrwyr o Ffrainc gyda gwibdaith i Fryste, cyn cyrraedd Caerdydd. Yma gwnaethant gyfarfod â dysgwyr Coleg Dewi Sant yn Cozy Club am swper. Roedd hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr sgwrsio mewn cymysgedd o Ffrangeg a Saesneg, gan sefydlu cyfeillgarwch newydd.
Y diwrnod wedyn, mynychodd y myfyrwyr Lycée Goleg Dewi Sant, lle buont yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o wersi ochr yn ochr â’n dysgwyr, gan nodi’r gwahaniaethau rhwng ein systemau addysgol. Er eu bod yn nerfus i ddechrau, mynegodd y myfyrwyr o Ffrainc eu bod yn genfigennus o’r amserlen addysgu gymharol hamddenol yng Ngholeg Dewi Sant, lle mae myfyrwyr fel arfer yn canolbwyntio ar dri neu bedwar pwnc y dydd o gymharu â’u deg pwnc y diwrnod.
Gyda’r nos, mentrodd y myfyrwyr o Ffrainc i ganol Caerdydd gyda’n dysgwyr i fwynhau cynhyrchiad Matthew Bourne o Edward Scissorhands yng Nghanolfan y Mileniwm gyda’r holl fyfyrwyr yn dweud eu bod “wedi mwynhau’r profiad yn fawr.”
Daeth yr wythnos i ben gydag ymweliad â Phwll Mawr, lle bu’r myfyrwyr Ysgol Uwchradd Lycée, ynghyd â’n dysgwyr, yn ymchwilio i hanes cyfoethog mwyngloddio Cymru am brofiad ymarferol. Darparodd hyn ddealltwriaeth ddyfnach o’r dreftadaeth Gymreig leol a’i hanes i’r ddau grŵp o fyfyrwyr.
Roedd y profiad hwn yn gyfle i wella sgiliau iaith y ddau grŵp o ddysgwyr ond hefyd meithrin cyfeillgarwch trawsddiwylliannol parhaol, gan ennill mewnwelediad amhrisiadwy i arferion a diwylliannau addysgol ei gilydd, gan greu profiad diwylliannol ac addysgol unigryw.