
Mae ein cyn-fyfyrwyr Aisha ac Awais Saeed yn esiamplau gwych o sut gall ymrwymiad, gwytnwch a’r gefnogaeth iawn arwain y ffordd at lwyddiant.
Mae eu siwrneau o Lefelau-A i raddau prentisiaeth a gyrfaoedd proffesiynol yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr presennol wrth iddynt ystyried eu dyfodol.
Gwnaeth Aisha ac Awais gymryd mantais lawn o’r cyfleoedd gawsant yng Ngholeg Dewi Sant.
Astudiodd Aisha Gelf, Astudiaethau’r Cyfryngau, Astudiaethau Busnes a’r Fagloriaeth Gymreig. Cafodd ei phrofiadau coleg eu cyfoethogi gan gyfleoedd fel y gystadlaethaeth Trading Places, lle datblygodd y sgiliau allweddol gwaith tîm, cyfathrebu ac arweiniad. Roedd cefnogaeth y tîm gyrfaoedd yn werthfawr wrth iddi fireinio’i cheisiadau i UCAS a’r cynllun gradd brentisiaeth Network75.
Astudiodd Awais Fathemateg, Ffiseg, Busnes a’r Fagloriaeth Gymreig. Gwnaeth ei ddarlithwyr yn siŵr ei fod yn deall a dysgu’r deunydd, gan ei baratoi at ymgeisiadau i’r byd go-iawn. Helpodd tîm y Launchpad iddo ddatblygu ei sgiliau ymgeisio, adeiladu CV, ac ennill profiadau allgyrsiol gwerthfawr, gan gynnwys profiad gwaith yn Arup and chymryd rhan yng Nghynllun Addysg Peirianneg Cymru.
Mae Aisha ac Awais yn pwysleisio pwysigrwydd paratoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r coleg. Dyma eu cyngor nhw i fyfyrwyr:
Ers gadael Coleg Dewi Sant mae Aisha ac Awais wedi ffynnu yn eu gyrfaoedd.
Mae Awais wrthi’n cwblhau gradd BSc mewn Datrysiadau Digidol a Thechnoleg (Diogelwch Seibr) ym Mhrifysgol De Cymru tra’n gweithio i Future PLC (perchnogion Go. Compare, Marie Claire, a Tom’s Guide). Mae’r brentisiaeth wedi galluogi iddo ennill profiad go-iawn mewn cwmni bywiog a byd-eang, ochr yn ochr ag ennill cymwysterau sy’n arwain y ffordd mewn diwydiant, fel CompTIA Security+ ac (ISC)² Certified in Cybersecurity.
Graddiodd Aisha gyda BA mewn Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol De Cymru drwy’r cynllun Network75, gan ennill pum mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau ariannol. Gwnaeth ei phrofiad go-iawn mewn Prosesau Awtomateiddio Roboteg a phrosiectau trawsffurfio digidol roi mantais iddi hi wrth chwilio am yrfa mewn technoleg, ac erbyn hyn mae hi’n beiriannydd meddalwedd yn y sector gyhoeddus.
Mae Aisha ac Awais yn brawf bod cael yr agwedd iawn a gwneud eich paratoi yn gallu agor drysau cyffrous. Maen nhw’n annog myfyrwyr heddiw i gymryd mantais ar bob cyfle yng Ngholeg Dewi Sant, i ofyn am gymorth y tîm gyrfaoedd, ac i fod yn benderfynol wrth wneud ceisiadau.
Mae eu hanes yn dangos nad yw llwyddiant bob amser ar ddiwedd llwybr draddodiadol- weithiau, mae dal ati ac addasu’n gallu arwain at y gyrfaoedd mwyaf diddorol. Bod yn frwdfrydig, yn benderfynol, yn wydn ac yn agored i ddysgu yw’r allweddi i agor drysau prifysgol, prentisiaethau neu gyflogaeth, pa un bynnag yw eich dewis chi.
Llawn ysbrodoliaeth? Ewch ati i ddarganfod y gefnogaeth sydd ar gael i chi yn y Launchpad i gychwyn eich dyfodol heddiw!