Cafodd myfyrwyr yn Nosbarth 2021 y profiad mwyaf unigryw yr oedd Coleg Dewi Sant erioed yn gallu cynnig, wrth iddynt wynebu heriau nad oedd unrhyw fyfyriwr blaenorol wedi’u profi. Fe wnaethant lwyddo i wrthsefyll yr heriau hynny. Wrth edrych yn ôl dros y ddwy flynedd diwethaf, roedd ambell i fyfyriwr yn ysbrydoliaeth i’r rhai o’u hamgylch – ac mae hynny’n wir yn achos Georgia Hellerman.
Yn ystod y Seremoni Ymadawyr eleni, enillodd Georgia Hellerman y wobr San John Paul II, sef gwobr a roddir i fyfyriwr sydd wedi arddangos cyrhaeddiad rhagorol mewn Chwaraeon. Pam? Wel…
Ers yn 14 oed, fe wnaeth Georgia gynrychioli Cymru mewn Pêl-rwyd, ac wedi hynny, chwaraeodd hi dros dîm dan-17. Ar ôl chwarae gyda’r tîm am 6 mis yn unig, enillodd ei lle i gystadlu ym Mhencampwriaeth Pêl-rwyd Ewrop dan-17. Yn ystod y tymor olynol, bu Georgia’n cynrychioli Cymru eto ym Mhencampwriaeth Ewrop dan-17 – ond fel capten y tro hwnnw.
Tra’n sefyll ei harholiadau Safon Uwch yng Ngholeg Dewi Sant, cafodd Georgia ei dewis i ymuno â charfan Colegau Cymru, a Charfan Cwpan y Byd Cymru dan-21.
Ac, os oedd hynny ddim yn ddigon, mae Georgia hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn Pêl-fasged ers iddi droi’n 11 oed, ac wedi chwarae yng nghystadlaethau Ewropeaidd FIBA yn Malta (dan-14), Gibraltar (dan-16), a Moldofa (dan-16).
Nid dim ond ar y cwrt chwarae y mae Georgia’n arddangos ei hagwedd fel capten. Yn ystod y cyfnod clo, roedd Georgia yn weithredol ar gyfryngau cymdeithasol, ynghyd ag aelodau eraill yn Nhîm Archers Caerdydd, er mwyn hyrwyddo buddiannau ymarfer corff.
Yn siarad am bwysigrwydd ymgysylltu pobl ifanc yng ngweithgareddau corfforol a chwaraeon, dywedodd Georgia:
“Teimlaf fod hyn yn bwysig tu hwnt, yn enwedig ar gyfer ein hiechyd a lles. Tra’n astudio ar gyfer fy nghymwysterau TGAU a Lefel A, sylweddolais mai chwaraeon a gweithgareddau hamdden oedd y ffyrdd gorau i’ch diddanu a hefyd i leddfu unrhyw straen
“Rwyf hefyd wedi gwneud fy ffrindiau agosaf wrth gymryd rhan mewn chwaraeon, ac wedi cwrdd â phobl newydd, ac wedi mwynhau profiadau newydd. Ar ba bynnag lefel, mae chwaraeon ac ymarfer corff yn ffordd i gael hwyl, ymgysylltu ag eraill, a modd i helpu gyda’ch ffitrwydd a’ch iechyd meddwl”
Ar ôl dwy flynedd yng Ngholeg Dewi Sant, gofynnwn i Georgia ddweud yr hyn a ddysgodd hi o’i hamser yn y Coleg.
“Y gefnogaeth, agwedd bositif, yr anogaeth, a’r hunan-gred a dderbynais gan fy athrawon yn ystod y pandemig. Os oedd gennyf gwestiwn neu os oeddwn i’n ansicr, roedd fy athrawon yno bob amser i helpu fi. Ces i gefnogaeth hefyd wrth y staff i gyd, gan gynnwys y Swyddog Arholiadau a’r Dirprwy Bennaeth. Ar bob adeg, roedd Coleg Dewi Sant yn dathlu fy nghyraeddiadau a chyraeddiadau myfyrwyr eraill, a theimlais fod y staff wastad yn ymfalchïo.
Roedd cael fy enwebu ar gyfer y wobr San John Paul II ar ddiwedd dwy flynedd wir yn anrhydedd. Gwnes i fwynhau’r ddwy flynedd yng Ngholeg Dewi Sant yn fawr iawn. Ni allaf ganu mawl yn fwy am y profiad ges i yno, a byddaf yn edrych yn ôl ar fy amser gydag atgofion cynnes”
Nawr, mae Georgia yn symud ymlaen i astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol, ac Iechyd ym Mhrifysgol Met Caerdydd, ar ôl cael ei hysbrydoli yng Ngholeg Dewi Sant, ac Ysgol Uwchradd Gatholig San Richard Gwyn. Bydd Georgia hefyd yn parhau ar ei llwybr ym myd Pêl-rwyd ar lefel genedlaethol, ac mae hi’n anelu i chwarae yn y Gynghrair Super, ac fe fyddwn ni gyd yn ei chefnogi.