Llongyfarchiadau i Chloe, am gael ei henwebu ar gyfer gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn C3SC, i gydnabod ei chyfraniadau gwirfoddol ysbrydoledig a bod yn begwn o bositifrwydd ac ysbrydoliaeth drwy ei hymdrechion gwirfoddoli. O fentora plant iau yn ei chlwb ieuenctid lleol i ymgysylltu â’r gymuned drwy gadetiaid Ambiwlans Sant Ioan a hyrwyddo diogelwch ar-lein gyda phlant yng Nghymru, mae ymrwymiad Chloe i wneud gwahaniaeth yn rhyfeddol. Mae hi’n rhannu ei thaith i feithrin hyder drwy rymuso cymunedau ac yn ceisio ysbrydoli eraill i gyfrannu.
“Ar hyn o bryd, rwy’n gwirfoddoli fel arweinydd ifanc yn fy nghlwb ieuenctid lleol” mae Chloe yn nodi, lle mae’n sicrhau bod plant 7 i 9 oed nid yn unig yn cael hwyl, “ond hefyd yn cael eu haddysgu ar faterion pwysig”.
Mae Chloe wedi creu gofod ymddiriedus, diogel ac addysgiadol ar gyfer y dysgwyr ifanc hyn, gan ymdrin â phynciau megis iechyd meddwl, tlodi mislif, bwyta’n iach, delwedd corff, a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae hi’n eu tywys drwy gyrsiau megis Gwobr Dug Caeredin a rhaglenni sgiliau coginio, gan ddarparu sgiliau ymarferol ac adeiladu eu CVs ar gyfer mentrau yn y dyfodol.
Mae ymglymiad Chloe â’r cadetiaid, sef rhaglen wedi’i halinio ar y cyd ag Ambiwlans Sant Ioan, yn ymestyn i amrywiaeth o waith yn y gymuned, er enghraifft taith gerdded noddedig ddiweddar ar gyfer digwyddiad codi arian i elusen canser yr ofari. Gan ymgysylltu â’r gymuned drwy ddigwyddiadau megis Ras am Oes, marathonau, diwrnodau hwyl, a digwyddiadau’r heddlu, mae hi’n cyfrannu’n weithredol at godi ymwybyddiaeth ar faterion sy’n effeithio ar y boblogaeth.
Mae ei hymrwymiad at ddiogelwch ar-lein pobl ifanc wedi’i adlewyrchu yn ei chyfraniad at y grŵp Keep Safe Online yng Nghymru, gyda ffocws ar greu gofod lle gallant “drafod materion allweddol y credwn fod pobl ifanc yn eu hwynebu ac archwilio ffyrdd y gallwn eu haddysgu”.
Dyma beth ddywedodd Chloe am pam mae gwirfoddoli’n bwysig:
“Yn gyntaf oll, y bobl anhygoel rydych chi’n cwrdd â nhw! Wrth wirfoddoli yn eich ardal leol rydych chi’n dysgu cymaint o bethau nad oeddech chi’n gwybod o’r blaen. Mae mor braf camu allan o’ch man cysurus a rhyngweithio â phobl rydych chi erioed wedi siarad â nhw o’r blaen.”
“Yn ail, byddwn i’n dweud y profiad a’r cyfle i hyrwyddo twf personol. Rydyn ni i gyd yn wynebu’n heriau ein hun ym mywyd o ddydd i ddydd ond mae gwirfoddoli yn gyfle i herio eich hun a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Rwy’n meddwl ei fod mor bwysig gan ei fod yn datblygu’ch empathi, eich dealltwriaeth, eich cyfathrebiad ac yn bwysicaf oll eich persbectif. Mae’n beth wych ac mae’r mathau hyn o sgiliau ac amlygiad yn ddefnyddiol iawn ym mywyd.”
Dechreuodd taith wirfoddoli Chloe yn ei chlwb ieuenctid lleol. Yn raddol, aeth hi o ymweld a chymdeithasu gyda ffrindiau i fod yn arweinydd ieuenctid medrus, ar ôl i’r clwb cynnig iddo ymuno â rhaglen o’r enw ‘Stronger Me,’ lle daeth hi’n arweinydd ifanc yn fuan. Nid ymrwymiad yn unig yw gwirfoddoli i Chloe, ond angerdd sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’i hunaniaeth. Meddai “mae gwirfoddoli yn rhan ohona i nawr, dyna dwi wrth fy modd yn ei wneud, a byddwn ar goll hebddo, mae’r cyfle, y bobl a phopeth amdano yn fy syfrdanu.”
Wedi’i chydnabod fel enwebai ar gyfer Gwirfoddolwr y Flwyddyn gyda C3SC, mae Chloe yn pwysleisio pwysigrwydd cyfarfod â phobl newydd, cael profiadau, a hyrwyddo twf personol trwy wirfoddoli.
I’r rhai sy’n ystyried gwirfoddoli ond ddim yn siŵr ble i ddechrau, mae gan Chloe gyngor syml: “Ewch amdani. Cofleidiwch y profiad gyda meddwl agored, calon ofalgar, ac angerdd dros gael effaith gadarnhaol.” Yng Nghaerdydd, mae yna lawer o gyfleoedd ar gyfer gwaith gwirfoddol, o siopau elusen i glybiau a sefydliadau ieuenctid lleol.
Roedd enwebiad Chloe yn gyrhaeddiad ysgubol, ac roedd ei hymroddiad a’i heffaith yn amlwg, gan sefyll allan o’r dorf fel yr unig enwebai 16 oed ymhlith enwebeion 25 oed.
Mae agwedd optimistaidd Chloe, a’i hymrwymiad i wella’r gymuned leol yn ysbrydoli cymuned Coleg Dewi Sant a’r gymuned leol. Llongyfarchiadau ar y gamp wych hon!
Pob lwc i ti Chloe yng nghamau nesaf dy fentrau yn y dyfodol.
Gallwch ddysgu rhagor am wirfoddoli drwy’r wefan C3SC yn: https://c3sc.org.uk/volunteer/