Pob blwyddyn, mae’r Coleg yn rhedeg ystod o weithgareddau allgyrsiol i gynnig rhywbeth at ddant pob myfyriwr. Mae’r amserlen allgyrsiol yn newid pob blwyddyn ac mae’n seiliedig ar anghenion dysgwyr.
Mae clybiau eleni yn cynnwys Clwb Gwyddbwyll, Clwb Celf, Caplaniaeth Myfyrwyr, Pêl-droed, Pêl-fasged, Tennis Bwrdd, Badminton, Clwb Gemau Bwrdd, Papur Newydd Myfyrwyr, a Chlwb Eco… a rhagor!
Gall myfyrwyr hefyd ddechrau eu clybiau a chymdeithasau eu hun. Eleni mae gennym Gymdeithas Ffilipinaidd, Cymdeithas Feddygol, Cymdeithas y Gyfraith a Chymdeithas Islamaidd sy’n weladwy iawn. Mae dechrau cymdeithas yn hawdd, ond rhaid bod gan myfyrwyr isafswm o chwe chyfranogwr i ddechrau’r clwb, rhaid i’r gymdeithas fod ar agor i bawb a rhaid i Ddysgwyr ymrwymo i gynnal y clwb am y flwyddyn.
Sut i ymuno â Chlwb neu Gymdeithas.
Ar ddechrau’r flwyddyn, mae’r Coleg yn cynnal Ffair y Glas lle gallwch gofrestru ar gyfer pob clwb. Yn ystod y Ffair gallwch hefyd fwrw pleidlais ar gyfer unrhyw glwb nad yw wedi’i restru ar hyn o bryd, ond rydych chi’n meddwl byddai’n syniad da. Os caiff y clwb ddigon o bleidleisiau, byddwn yn cychwyn y clwb hwnnw fel gweithgaredd amser cinio.
Caiff amserlenni eu he-bostio at bob myfyriwr hefyd.
Mae Pêl-droed bob amser ar yr Astro yng nghefn y Coleg, ac mae gweithgareddau rheolaidd yn y neuadd chwaraeon bob amser cinio.
Os nad ydych yn siŵr, gallwch ofyn i’ch Tiwtor Bugeiliol.