Mae’r adrannau Bugeilio a Safle Lansio’n paratoi dysgwyr ar gyfer eu dyfodol ym mis Medi 2026 drwy’r her o greu cyfleoedd ychwanegol sy’n ymestyn ymhellach na’r ystafell ddosbarth.  Y nod yw annog dysgwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol er mwyn rhoi hwb i’w ceisiadau UCAS, prentisiaeth neu gyflogaeth.

Mae’r dysgwyr wedi cofleidio’r cyfleoedd gyda brwdfrydedd a chreadigrwydd. Maen nhw’n paratoi eu hunain ar gyfer y gyrfaoedd maen nhw’n cynllunio yn y meysydd sy’n eu diddori.

Mae Nyamh, sy’n gobeithio gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm, wedi ymuno ag asiantaeth gastio. Cafodd hi rôl yn y gyfres Amazon Paris has Fallen sy’n cael ei chreu yng Nghymru. Yn y cyfamser, mae  Patryk a Jamie’n ymarfer eu crefft yn y cyfryngau drwy greu podlediad sy’n adolygu ffilmiau a theledu.

Mae Alex yn arddangos ei ddoniau cerddorol drwy berfformio gyda’i ensemble lleisiol Rhapsody yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Canodd Alex “In My Father’s House” a “Bring Him Home o Les Misérables.”

Mae Elliott yn angerddol am chwaraeon ac wedi bod yn hyfforddi tîm pêl-droed ieuenctid. Datblygodd e sesiwn gyda strwythur a’i helpodd i ddatblygu ei sgiliau arwain a chyfathrebu. Mae’r rhain yn allweddol ar gyfer gwaith proffesiynol ym maes chwaraeon.

Mae uchelgais Jim ym maes marchnata ac fe gydweithiodd e gyda brand o Gaerdydd “Mére” i greu fideo hyrwyddo, gan ennill profiad gwerthfawr mewn cynhyrchu yn y cyfryngau.

Cymerodd Feven ran mewn profiad gwaith cyfreithiol ar-lein gyda The Garden Chambers, gan fynychu seminarau wythnosol gyda’r fargyfreithwraig flaengar Nicola Braganza KC.

Yn y cyfamser dychwelodd Aakif i fyd tennis cystadleuol gan fentora ei sibling ifancach. Yn ogystal, enillodd e’i fathodyn Hyfforddi Lefel 1 ac mae’n paratoi nawr ar gyfer Lefel 2, gan arddangos penderfyniad ac ymrwymiad.

Mae’r dysgwyr hyn yn esiamplau i ysbrydoli eraill, gyda’u parodrwydd i gofleidio pob cyfle er mwyn hybu eu ceisiadau UCAS, prentisiaeth neu am swydd. Edrychwn ymlaen at eu gweld yn datblygu ymhellach ac yn ffynnu yng nghymuned ein coleg dros y flwyddyn i ddod.