
Roedd Chwefror yn fis cyffrous i’n myfyrwyr wrth iddynt arddangos eu doniau ac arbenigedd yn Nghystadlaethau Sgiliau Cymru, ac ennill profiadau gwerthfawr ar draws ystod o ddiwydiannau. Gwelsom eu gwaith caled ac ymrwymiad ac rydyn ni’n falch iawn o’u llwyddiant!
Cymerodd Heli Alyoussef a Fariha Diya ran yn y gystadleuaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Nedd Port Talbot ym Margam. Cafodd eu sgiliau gofal cleifion eu profi, a chawsant adborth gadarnhaol gan staff y gystadleuaeth. Roedd y profiad yn arbennig o werthfawr wrth iddynt baratoi at gyfweliadau prifysgolion cyn hir. Cefnogodd Ceri Channon nhw yn eu hyfforddiant. Nyrs a budwraig yw hi, sy’n Bencampwr Galwedigaethau Gofal Iechyd i’r Coleg.
Enillwyr medalau Ysbrydoli Sgil Cymru
Gwnaeth Harlie Nedrud, Angharad Rodriguez Jones, Molly, a Kadie gymryd rhan yn y gystadleuaeth Gwyddor Fforensig ym Mhrifysgol De Cymru, yn eu tŷ lleoliad trosedd anhygoel. Cymeron nhw ran mewn tasgau yn cynnwys casglu tystiolaeth, codi olion bysedd, a dadansoddi samplau yn y labordy- a hynny mewn siwtiau lleoliad trosedd! Rhoddodd y profiad ymarferol hwn gipolwg i yrfaoedd posibl mewn gwyddorau fforensig iddyn nhw. Tim Raggett a Laura Breslin arweiniodd nhw drwy’r paratoi a’r ceisiadau.
Enillwyr medalau Ysbrydoli Sgil Cymru
Cystadleuaeth newydd sbon ar gyfer 2025- cynhaliwyd y digwyddiad Technegydd Lab ar gampws Pontypridd Prifysgol De Cymru. Aeth y myfyrwyr Shada, Aurelia, ac Amber i’r digwyddiad i ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd labordy. Darparodd yr aelod staff Bafreen Salih hyfforddiant, a gweithiodd hefyd fel beirniad i’r gystadleuaeth. Mae’r cyfle hwn wedi rhoi cipolwg i’r coleg fydd yn werthfawr wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer cystadleuaeth y flwyddyn nesaf.
Cynrychiolodd Catherine y coleg yn y gystadleuaeth Menter, lle roedd rhaid i gystadleuwyr ddatblygu cynllun busnes ar gyfer syniad arloesol. Cafodd y beirniaid eu plesio gan ei syniad- busnes steilio ffasiwn cynaliadwy wedi’i ffocysu ar ailgylchu a chaffael dillad ail-law. Cefnogodd Michela Bloomfield, o Fusnes Cymru, a Phencampwr Menter y Coleg, Sandra Brewster, Catherine wrth iddi ddatblygu a mireinio’i chynllun busnes.
Will Everitt, Daniel, a Dylan dderbyniodd yr her Codio mewn cystadleuaeth yn PDC Casnewydd. Y dasg oedd i raglennu datrusiad seiliedig-ar-destun at bwrpas penodol, a mwyhau eu sgiliau datrus problemau. Roedd y digwyddiad yn gyfle dysgu gwych. Cefnogodd yr aelod staff Greg Rees eu paratoadai drwy wersi Cyfrifiadureg a chlwb codio’r coleg.
Enillwyr medalau Ysbrydoli Sgil Cymru
Un o gystadlaethau mwyaf newydd 2025, categori Technegydd Cefnogaeth TG, a welodd y myfyriwr Will Landricombe yn cymryd rhan. Gyda’i fusnes cefnogaeth TG ei hun eisoes ar y gweill, gadawodd y gystadleuaeth hon iddo brofi ei sgiliau yn erbyn dysgwyr eraill yn y maes. Gweinyddwr Systemau TG y coleg, Arran Byron, wnaeth fentora Will ar gyfer y gystadleuaeth.
Cystadlodd y myfyrwyr Thabo Mhlanga, Maks Figurski, ac Adam Viju yn y gystadleuaeth Sero Net yng Ngholeg Sir Benfro. Eu her oedd i ddatblygu datrusiad seiliedig yn y gymuned i helpu gyda thargedau Sero Net Llywodraeth Cymru. Gweithiodd Thabo, oedd yn benderfynol i wella ar ei fedal efydd o 2024, ar y cyd â Maks ac Adam i wneud cyflwyniad rhagorol o flaen beirniaid o’r diwydiant. Daethon nhw â’u syniadau’n fyw gyda chymorth Sandra Brewster a Sarah Reypert.
Enillwyr medalau Ysbrydoli Sgil Cymru
Wedi wythnosau o aros, cynhaliwyd parti gwylio yn y coleg ddydd Iau, Mawrth 13, i ddathlu ymdrechion a llwyddiannau’r holl fyfyrwyr. Roedd yn ddigwyddiad ysbrydoledig wnaeth dynnu sylw at gymaint mae’r gystadleuaeth wedi helpu’r myfyrwyr i dyfu mewn hyder a magu sgiliau hanfodol at eu dyfodol.
Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi’r enillwyr gwobrwyon isod:
Technegydd Cefnogaeth TG
Medal Aur a Gwobr Rhanbarthol (Dwyrain Cymru)– Will Landricombe
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Medal Arian – Heli Alyoussef
Clod Uchel – Fariha Diya
Codio
Gwobr Efydd – William Everitt
Gwyddor Fforensig
Medal Efydd – Harlie Nedrud
Clod Uchel- Angharad Rodriguez Jones
Sero Net
Medal Arian- Thabo Mhlanga, Maks Figurski ac Adam Viju
Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr a gymerodd ran! Hoffai tîm y Safle Lansio ddiolch i bob aelod o staff am ddethol, mentora a chefnogi’r myfyrwyr drwy gydol eu taith yn y gystadleuaeth. Mae eich ymroddiad wedi chwarae rhan hollbwysig yn eu llwyddiant, ac edrychwn ymlaen at ragor o gampau yn y dyfodol!