Daeth myfyrwyr o Gymru a Ffrainc ynghŷd drwy eu cariad at gerddoriaeth yng Ngholeg Dewi Sant y mis diwethaf, fel rhan o gyfnewid rhyngwladol.
Croesawon ni 28 myfyriwr a dau aelod o staff Lycée Anita Conti yn Bruz, Llydaw, am ymweliad dau ddiwrnod a ganolbwyntiodd ar gydweithredu a pherfformiad.

Y daith hon, a gefnogwyd gan Golegau Cymru a phartneriaid rhyngwladol yn Ffrainc, oedd y tro cyntaf i’r grŵp ymweld â Chaerdydd, fel rhan o raglen gyfnewid rhyngwladol sy’n tyfu.
Cynlluniwyd y trip gyda gofal a chydweithrediad, gan adlewyrchu ymrwymiad y coleg at gysylltiadau rhyngwladol a chyfnewid diwylliannol. Roedd yn gyfle i’r myfyrwyr ymestyn eu gorwelion a chael profiadau newydd.

Yn ystod eu hymweliad, cafodd y myfyrwyr Ffrengig eu paru â dysgwyr Dewi Sant drwy’r Grŵp Cyfeillion Rhyngwladol.
Yn ogystal â mynd i wersi, cymeron nhw ran mewn gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol y tu allan i’r dosbarth. Helpodd hyn i’r myfyrwyr brofi bywyd go-iawn yn y coleg, a rhoi cyfle iddynt ddysgu mwy am gefndiroedd ei gilydd.

Uchafbwynt yr ymweliad oedd cyngerdd cyffrous yn y theatr.
Canodd y myfyrwyr Ffrenging amrywiaeth o ganeuon yn Ffrangeg a Saesneg, o ganeuon y Beatles i ddarnau na chlywodd ein myfyrwyr ni erioed o’r blaen. Ymunodd rhai o’n myfyrwyr yn y caneuon, a gorffennodd y perfformiad gyda chyfle i bawb ganu gyda’i gilydd.
Yna tro myfyrwyr Dewi Sant oedd hi ar y llwyfan, a pherfformion nhw ddarnau o’r cynhyrchiad diweddar o Fame, a rhoi tipyn o sioe i’r gynulleidfa.
