
Mae Coleg Dewi Sant yn falch o gyhoeddi penodiad Katie Cummins yn Arweinydd Urddas a Chynhwysiant newydd. A chanddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes addysg Gatholig a chefndir academaidd cryf, mae Katie’n ymrwymo i fagu diwylliant o degwch, perthyn a pharch.
Arweiniodd Katie’r Prosiect Noddfa, lle datblygodd ymarferiadau cynhwysol wedi’u gwreiddio yn Nysgeidiaeth Addysgu Gatholig. Gwnaeth ei hymdrechion arwain at anrhydeddu’r coleg gyda’r wobr fawreddog Gwobr Coleg Noddfa. Yn angerddol am gyfiawnder cymdeithasol, chwaraeodd ran allweddol mewn mentrau fel y Prosiect Ymestyn, a sefydlu Banc Bwyd y coleg. Mae’r ymdrechion hyn yn adlewyrchu ei hymroddiad dwfn i’r “Opsiwn Ffafriol i’r Tlawd”.
Fel Arweinydd Urddas a Chynhwysiant, bydd Katie’n cydweithio â’r Uwch Dîm Arweiniad i greu strategaethau fydd yn anrhydeddu gwerth gynhenid pob unigolyn. Bydd hi’n goruchwylio Cynllun Strategol Cydraddoldeb y coleg a’r Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol tra’n sicrhau aliniad â gwerthoedd yr Efengyl. Bydd hefyd yn cefnogi myfyrwyr a staff gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth cydraddoldeb a meithrin amgylchedd gynhwysol
Bydd arbenigedd Katie’n helpu i gymhwyso urddas, cynwysoldeb a chyd-sefyll mewn i ddysgu ac addysgu. Gan hyrwyddo’r egwyddorion hyn bydd hi’n anelu at adeiladu amgylchedd mwy croesawgar a llawn parch yn y coleg.
Wrth adlewyrchu ar ei rôl newydd, dywedodd Katie:
“Mae’n anrhydedd i fi wasanaethu fel Arweinydd Urddas a Chynhwysiant Coleg Catholig Dewi Sant. Mae’r rôl hon yn fy ngalluogi i integreiddio ffydd, cyfiawnder cymdeithasol ac addysg, gan sicrhau bod pob aelod o’r gymuned yn teimlo wedi eu gwerthfawrogi a’u parchu, a’u hannog i gyrraedd eu llawn botensial.”
Meddai’r Pennaeth Geraint Williams:
“Mae ymrwymiad Katie i Ddysgeidiaeth Gymdeithasol Gatholig a’i llwyddiant yn meithrin cymunedau cynhwysol yn golygu ei bod yn ddelfrydol i’r rôl hon. Rydym yn frwd i weld sut y gwnaiff ei gweledigaeth ac ymrwymiad gyfoethogi ein coleg, ac ymhellach ein cenhadaeth i greu diwylliant o gariad, gwasanaeth a pharch, gyda Christ wrth galon pob peth a wnawn.”
Mae penodiad Katie’n nodi cam arwyddocaol ymlaen yng nghenhadaeth y Coleg i hyrwyddo cynhwysiant, ac i gynnal urddas pob unigolyn. Bydd ei harweiniad yn cryfhau ymrwymiad y coleg i gynnig amgylchedd gynhwysol a chroesawgar i bawb.