Wyt ti’n wyddonydd brwd, yn berfformiwr talentog, yn greadigol a chwilfrydig neu’n bwriadu arwain cwmni Fortune 500? Beth bynnag yw dy faes dewisol, mae Coleg Dewi Sant yn anelu i ddarparu rhaglen bersonol o astudiaethau sy’n cwrdd â dy anghenion dysgu ac uchelgeisiau gyrfa.
Mae ffocws addysgol Coleg Dewi Sant ar addysgu’r person cyfan, dy alluogi di i ddod yn ddysgwr annibynnol a chynorthwyo iti bontio’n rhwydd o’r ysgol ac ymlaen at brifysgol neu gyflogaeth.
Mae’r wybodaeth ar y tudalen yma’n rhoi manylion rhywfaint o’r cymorth sydd ar gael yn y Coleg, gyda throsolwg o fywyd Coleg, beth ddisgwyliwn ni gan ein dysgwyr, a beth gelli di ddisgwyl yn dy dro.
Astudio yn y Coleg
Mae bywyd Coleg yn wahanol i’r ysgol. Mae mwy o ddewis gyda ti a mwy o annibyniaeth o ran beth rwyt ti’n astudio a sut i astudio.
Mae Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant yn darparu amgylchedd aeddfed lle gall pawb ddysgu a gwneud cynnydd. Mae disgwyl i ti:
- i anelu at lefel uchaf ysgoloriaeth gan bresonoli’n llawn ac yn brydlon. I nodi dyddiadau tymor y coleg a pheidio trefnu gwyliau yn ystod y tymor;
- i ddod i dy wersi’n barod i weithio, gan gynnwys drwy ddod â phen, ffeil ac unrhyw adnoddau dysgu rwyt ti wedi eu derbyn. Mae hyn yn cynnwys offer arbenigol yn ôl galw dy athrawon;
- i barchu’r rhai o’th gwmpas drwy wisgo dillad addas a dechau. Mae hyn yn cynnwys tynnu hwds a chapiau mewn gwersi.
- i ddangos parch at ddefnyddwyr eraill y safle a’n cymdogion, gan ymddwyn fel oedolyn, peidio â gollwng sbwriel, a dangos cwrteisi i drigolion lleol. Yn ardal Wellfield /Albany Road cofia dy fod yn cynrychioli’r Coleg;
- i ddangos parch at dy gyd-ddysgwyr drwy beidio â bwyta nac yfed yn y dosbarth. Caniateir dŵr potel, mae’n debyg bod yfed dŵr yn llesol wrth ddysgu;
- i barchu dy iechyd ac iechyd eraill drwy beidio ysmygu na feipio ar y safle. Safle di-fwg yw’r Coleg;
- i ddangos parch at dy gyd-ddysgwyr drwy ddiffodd pob ffôn symudol a dyfais arall mewn gwersi. Rho nhw yn dy fag a thynnu dy glustffonau.
Astudio Annibynnol
Yn y bore does dim rhaid iti ddod i’r Coleg nes bod gwers gyda ti. Fodd bynnag, yn ystod y dydd gall fod gwersi rhydd ar dy amserlen ar gyfer astudio annibynnol neu breifat. Os gweli di’n dda paid â threulio’r holl amser yma’n ymlacio, ond cymer fantais o’r adnoddau sydd ar gael iti astudio, yn y GAD ac ardaloedd eraill y Coleg.

Mathau o Gymorth
Gweler y tudalen Cludiant am fanylion trafnidiaeth i’r Coleg ac yn ôl. Gelli di hefyd ebostio’r Coleg os oes ymholiad yn ymwneud â chludiant gyda ti, neu cer i’r ardal Gwasanaethau Myfyrwyr (ym mynediad adeilad George Stack)
Ebost: studentservices@stdavidscollege.ac.uk
Ffôn: 02920 498555
Mae’r tîm Lles yn cynnig gofod diogel ac arweiniad er mwyn cefnogi lles a gwytnwch emosiynol. Mae yno bodiau amser tawel, ystafell sensori, sesiynau un-i-un ar gael, gweithgareddau amser cinio, gwasanaeth cwnsela, a gallant gyfeirio at asiantaethau cymorth arbenigol.
Maen nhw ar gael yn G17 (Prif Adeilad). Does dim angen curo, cer mewn i’w gweld.
Dere mewn rhwng 8yb a 4yp, Llun i Gwener, amser cinio, egwyl, neu yn ystod gwers rydd.
Gelli di gysylltu i drefnu apwyntiad drwy ebostio:
wellbeing@stdavidscollege.ac.uk
Am wybodaeth ar y cymorth ariannol sydd ar gael i ti, cer at dudalen cyllid y wefan hon drwy’r ddolen.
Mae pob myfyriwr yn cael Mentor Dilyniant wedi’i enwebu yn nhymor yr hydref eu blwyddyn chweched uchaf. Mae’r mentor dilyniant yn gyfrifol am dy arwain drwy’r broses ymgeisio ar gyfer prifysgolion, yn ogystal â sicrhau bod gan bob myfyriwr fynediad at arweiniad gyrfaoedd addas a chefnogaeth ar gyfer prentisiaethau a chyflogaeth hefyd.
Yn ystod y flwyddyn bydd nifer o ffeiriau a sgyrsiau, pan ddaw pobl allanol mewn i’r Coleg a galluogi’r myfyrwyr i chwilota’r dewisiadau sydd ar gael yn y dyfodol. Mae’r cyfleoedd hyn yn galluogi i fyfyrwyr wneud penderfyniadau’n seiliedig ar wybodaeth, felly gwna bob ymdrech i gymryd pob cyfle os gweli di’n dda.
Gelli di ymweld â’r Safle Lansio, tîm unigryw sydd yma i’th arwain a chefnogi di gydag arweiniad gyrfa, helpu â cheisiadau prifysgol, a chyfleoedd menter a chyflogaeth.
Mae dy diwtor bugeilio yno i ti, i ddarparu gofal bugeiliol ac arweiniad.
Mae’n bosibl i drefnu apwyntiad gyda chwnselydd y coleg drwy dy diwtor bugeilio.
Os wyt ti’n rhoi cymorth corfforol ac emosiynol a/neu ofal personol i rywun yn dy gartref, gan gynnwys brodyr a chwiorydd, gall y Coleg dy gefnogi di.
Plis cysyllta â Mrs C. Jones, fydd yn gallu dy gefnogi di drwy gydol dy addysg.
Ebost: CJones@stdavidscollege.ac.uk
Mae arholiadau’n achosi straen; does dim cuddio hynny, ond rydyn ni, fel cymuned, yn ceisio sicrhau’n bod i gyd yn paratoi yn y ffyrdd gorau.
Gelli di weld dy amserlen arholiadau personol arlein, ar Student Advantage, cyn gynted ag y bydd ar gael. Bydd unrhyw wrthdaro rhwng arholiadau unigolyn yn cael eu datrys.
Mae ffurflenni Ailsefyll ac Ar ôl canlyniadau ar gael o’r Dderbynfa.
Os oes angen gwybodaeth arnat ti ar unrhyw agwedd o arholiadau neu asesiad allanol, plis cysyllta â’r swyddog arholiadau, Mrs F. Jackson
Ebost: exams@stdavidscollege.ac.uk
Mae pob myfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant yn mynychu Myfyrdod Ysbrydol, cwrs sy’n cynnwys amrywiaeth o drafodaethau a gweithgareddau. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i feithrin y gallu i feddwl mewn ffyrdd lled-grefyddol ac ysbrydol, ac i fynd i’r afael â heriau sy’n cael eu cynnig gan hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a chelfyddyd, yn ogystal â datblygu’r 16 Rhinwedd Allweddol ym Mhroffil Disgybl yr Iesuwyr
Pan fyddi di’n ymuno â Choleg Dewi Sant, byddwn yn asesu dy anghenion dysgu’n seiliedig ar wybodaeth rwyt ti’n ei rannu, gan sicrhau dy fod yn derbyn y cymorth mwyaf addas o’r cychwyn cyntaf.
Os oes anghenion dysgu gyda ti, trefniadau mynediad arholiadau, neu Gynllun Datblygu Unigol (IDP), mae’r Ganolfan Cynnal Dysgwyr (LSC) yma i helpu.
Mae’n staff profiadol yma i gefnogi dysgwyr mewn meysydd sy’n cynnwys dyslecsia, awtistiaeth, ADHD, a sgiliau astudio cyffredinol, er mwyn sicrhau bod yr offer a hyder gyda ti i lwyddo.
Ar gyfer myfyrwyr a fu’n astudio mewn addysg Cyfrwng-Cymraeg, rydyn ni’n cydnabod y gall pontio for yn heriol.
Lle mae’n bosibl, byddi di’n cael dy roi mewn grŵp tiwtor cyfrwng-Cymraeg sy’n derbyn sesiynau bugeiliol dwyieithog.
Mae gwasanaethau a chefnogaeth ar gael i fyfyrwyr i’w helpu i bontio’n cynnwys:
- llyfryn geirfa dwyieithog fesul pwnc
- cymorth wrth ysgrifennu aseiniadau
- trefnu profiad gwaith Cymraeg
- amrywiaeth eang o brofiadau all-gwricwlaidd
- cyfle i fod yn rhan o Bwyllgor Dwyieithrwydd Coleg Dewi Sant.
Mae’r Coleg yn cefnogi cyfleoedd i bob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.
Er mwyn llwyddo yn y coleg, rhaid i fyfyrwyr ddangos lefelau da o lythrennedd a rhifedd.
Bydd dy arweinwyr pwnc yn darparu cefnogaeth benodol ar sut i wella dy sgiliau yn y meysydd hyn- a bydd dy diwtor bugeilio yn cynnig mwy o gefnogaeth.
Tiwtor Bugeiliol
Dy Diwtor Bugeiliol yw’r person i fynd atynt ar gyfer help a chefnogaeth. Maen nhw yno i’th helpu di drwy dy gyfnod yng Ngholeg Dewi Sant.
Byddi di’n gweld dy Diwtor Bugeiliol unwaith yr wythnos, ond gelli di gysylltu â nhw unrhyw bryd yn ystod dy ddiwrnod coleg.

Diogelu a Lles
Mae hawl gan bawb i deimo’n ddiogel yn y coleg, ac mae cyfrifoldeb ar bawb i sicrhau bod pawb sydd o’n cwmpas yn ddiogel hefyd. Os oes unrhyw ofid gyda ti ynglŷn â diogelu, cysyllta â’r Tîm Diogelu, neu siarada ag athro/athrawes neu aelod o’r staff Lles.

Y Safle Lansio
Y Safle Lansio yw’r lle i fynd ar gyfer popeth sy’n ymwneud â bywyd ar ôl Coleg. Gallan nhw ddarparu cefnogaeth gyrfaoedd, dewisiadau prifysgol, cyrsiau, UCAS, cyflogadwyedd, swyddi rhan-amser, gwirfoddoli- mae’r rhestr yn faith!
Mae’r cyfleodd mae staff y Safle Lansio’n cynnig yno i gael eu manteisio arnynt- maen nhw wir o gymorth wrth ymgeisio i’r brifysgol, wrth lunio CV a cheisiadau am swyddi- yn ogystal â bod yn gymorth i ymestyn dy orwelion a gwneud penderfyniadau gwell am dy ddyfodol.

Dilyniant i’r Ail Flwyddyn
Nid yw myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau Lefel 2 neu Lefel 3 o reidrwydd yn gallu hawlio ail flwyddyn yn y Coleg. Mae dy le yn yr ail flwyddyn yn ddibynnol ar dy ysgoloriaeth yn ystod dy flwyddyn gyntaf. Bydd angen i ti ddangos ymrwymiad i astudio i dy athrawon a thiwtor bugeiliol.
I gael dilyniant i’r ail flwyddyn ar gwrs Lefel 3, rhaid iti gyflawni gradd D mewn lefel AS neu Bas mewn cwrs BTEC. Mewn Mathemateg dwbl, rhaid cyflawni Gradd C mewn Lefel A Mathemateg, gan gynnwys C yr un yn y ddau lefel.
Mae presonoldeb yn arwydd eglur o’r tebygrwydd i lwyddo. Mae ymchwil yn dangos bod gostyngiad o 10% mewn presenoldeb yn achosi cwymp o un radd mewn Lefel A. Felly bydd myfyriwr sy’n presenoli dim ond 75% yn debyg o gyflawni ddwy radd yn is na myfyriwr sy’n presenoli 95%.
Mewn cyfnod pan fo mynediad i brifysgol a chyflogaeth yn gystadleuol, mae myfyrwyr yn gallu cael effaith sylweddol ar eu dyfodol os yw eu presenoldeb yn gostwng yn is na 95%.
Mewn geiriau eraill, bydd myfyriwr sy’n presenoli 75% yn colli gwerth 8 wythnos o addysg dros y flwyddyn. Dyma amser allweddol gydag athrawon, sy’n gallu gadael y myfyriwr yn methu ateb adrannau cyfan mewn papur arholiad.
Mae disgwyl i ti
- anelu at bresenoldeb 100%
- sicrhau bod unrhyw absenoldeb yn cael ei adrodd i dy diwtor bugeiliol ac yn cael ei awdurdodi arlein gan dy riant neu warcheidwad.
Mae’r Coleg yn gweithredu system fonitro presenoldeb ffurfiol, lle bydd myfyrwyr yn atebol am unrhyw absenoldeb answyddogol neu heb eu hesbonio.
Bydd myfyrwyr sy’n presenoli’n wael yn cael eu rhoi ar gynllun mynychiant ac o bosibl bydd gofyn iddynt adael y Coleg os na fydd eu presenoldeb yn gwella.
Rhaid i ti gysylltu â dy diwtor bugeiliol drwy alwad ffôn neu ebost i adael iddynt wybod os wyt ti i ffwrdd am unrhyw reswm, ar ddiwrnod cyntaf dy absenoldeb.
Mae hyn yn gwrtais ac yn ymarfer da. Rhaid i bob absenoldeb gael ei awdurdodi gan riant neu warcheidwad, ar-lein.
Mae prydlondeb yn sgil dymunol a throsglwyddadwy i’r gweithle. Os wyt ti’n gwybod dy fod yn mynd i fod yn hwyr, dylet ti gysylltu â dy athro neu diwtor bugeiliol ymlaen llaw,
Bydd hwyrni cyson yn cael ei ystyried yn ddiffyg ymrywmiad i dy addysg, a chaiff ei drafod fel mater o bwys.
Fydd unrhyw fath o aflonyddu, pun ai yn gorfforol, yn llafar, ddim yn llafar, yn rhywiol neu yn hiliol ddim yn cael ei oddef. Bydd camau disgyblu’n cael eu cymryd yn erbyn unrhyw aelod o’r gymuned sy’n ei gael yn euog o’r fath ymddygiad.
Mae’r coleg yn cydnabod arwyddocad sicrhau diogelwch pob dysgwr, holl gymuned y coleg a’u heiddo. Mae Gweithdrefn Diogelu trwyadl gyda ni.
Os oes unrhyw ofid neu gwestiynau gyda ti am dy ddiogelwch a lles, neu ddiogelwch a lles dysgwr arall, gan gynnwys gofidiau am radicaleiddio, os gweli di’n dda cysyllta â dy Diwtor Bugeiliol. Os nad yw dy diwtor ar gael, neu byddai’n well gyda ti drafod y mater â rhywun arall, cysyllta â’r Swyddog Diogelu yn y Swyddfa Les.
Mae botwm “Adrodd” ar Linc, sy’n cysylltu dy neges yn syth â’r Tîm Diogelu.
Caiff unrhyw fyfyriwr dan amheuaeth o ddefnyddio neu gario sylweddau anghyfreithlon ei wahardd nes cael Gwrandawiad Disgyblaeth y Coleg.
Os canfyddir bod myfyriwr wedi ymwneud â sylweddau anghyfreithlon gofynnir iddynt adael y Coleg, a bydd yr Heddlu’n derbyn adroddiad am waharddiad y myfyriwr.
Llên-ladrad yw cyflwyno meddyliau, geiriau a syniadau rhywun arall fel eich gwaith eich hun, gan gynnwys defnydd o AI.
Bydd unrhyw fyfyriwr sydd wedi ei ganfod yn llên-ladrata neu gopïo oddi wrth fyfyriwr arall dan beryg o orfod gadael y cwrs, neu gael ei wahardd o’r Coleg.
Mae dyletswydd ar y Coleg i adrodd pob digwyddiad o lên-ladrata i’r bwrdd arholi a chyrff dyfarnu.
Dylid diffodd ffonau symudol mewn gwersi, onibai i’r athro ganiatâu’r dosbarth i’w defnyddio’n benodol ar gyfer gweithgaredd ddysgu.
Os wyt ti’n ofalwr ifanc neu mae angen iti gael dy ffôn ymlaen am resymau personol neu deuluol, siarada â dy athro o flaen llaw.
Cynghorir yn gryf i ti beidio cymryd gwyliau yn ystod y tymor, gan y caiff ei nodi fel “absenoldeb heb ei awdurdodi” a gall arwain at weithredu disgyblu posibl.
Mae dyddiadau’r tymhorau’n cael eu cyhoeddi ymlaen llaw cyn dechrau’r flwyddyn academaidd. Gofynnir i ti sicrhau nad wyt ti’n cymryd gwyliau yn ystod y tymor.
2025-2026 Dyddiadau'r Tymhorau
Dechrau’r Tymor: 8 Medi
Hanner Tymor: 27 Hydref- 31 Hydref
Gwyliau’r Nadolig: 22 Rhagfyr – 2 Ionawr 2026
Hanner Tymor: 16 Chwefror – 20 Chwefror
Gwyliau’r Pasg: 30 Mawrth – 10 Ebrill
Hanner Tymor: 25 Mai – 29 Mai
Diwedd y Tymor: 26 Mehefin