Mae’r Ganolfan Cymorth i Ddysgwyr (CCD) yn darparu profiad dysgu cynhwysol ac unigol i ddysgwyr niwroamrywiol. Yr LSC yw’r lle ar gyfer cymorth a chyngor, i fyfyrwyr sy’n cael trafferth gydag unrhyw agwedd ar fywyd coleg, gan gynnwys y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn dibynnu ar natur yr anghenion a’r hyn sy’n addas ar gyfer y myfyriwr unigol. Er enghraifft, rydym yn cynnig:
- Lleoliad tawel ychwanegol i gwblhau gwaith
- Cefnogaeth academaidd un-i-un
- Apwyntiadau ymgynghorol
- Gwasanaeth Cwnsela Coleg
- Cydlynu cefnogaeth ac addasiadau rhesymol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau
- Cyfeirio at ein Cynllun Mentora cyfoedion
- Sesiynau cefnogaeth grŵp
- Cyfeirio at gefnogaeth allanol
Tîm CCD
Mae’r Ganolfan Cefnogi Dysgwyr wedi’i lleoli yn T08 (ar lawr uchaf y Prif Adeilad).
Os nad ydych chi’n siŵr ym mhle i’w chanfod, gallwch ofyn yn y Dderbynfa neu holwch aelod o’r staff. Fel arall, gallwch anfon e-bost at LSCTeam@stdavidscollege.ac.uk
Pwy sy’n gallu derbyn cefnogaeth?
Gallwn ni gynnig cyngor i unrhyw fyfyriwr sy’n cael trafferth yn y Coleg am ba bynnag rheswm. Ddim yn siŵr os ydyn ni’n gallu eich helpu? Gofynnwch! Os nad oes modd i ni eich helpu, rydym yn gallu cysylltu gyda’r bobl sy’n medru i’w wneud.
.
.
Sut i gysylltu
Y ffordd fwyaf haws o gysylltu â ni yw i ddanfon e-bost i’r cyfeiriad yma: LSCteam@stdavidscollege.ac.uk.
Os oes gennych bryder sy’n fater o frys, rhowch wybod i ni a byddwn yn dod o hyd i rywun i siarad â chi ar unwaith.