Da iawn i’r holl fyfyrwyr Cemeg a gymerodd ran yn yr arbrofion, a llongyfarchiadau i Aaron Sam, Joshua Roy ac Iwan Rees a gafodd y wobr gyntaf.

O’r pymtheg myfyriwr Cemeg ‘AS’ a deithiodd i Brifysgol Abertawe ar gyfer cystadleuaeth y Dadansoddwr, rhannwyd myfyrwyr yn dimau o dri, lle byddent wedyn yn cael y dasg o gynnal dau arbrawf o dan gyfyngiadau amser.

Diolch i Brifysgol Abertawe am ein gwahodd i’w labordai a chaniatáu i’n myfyrwyr gael profiad o Gemeg ar lefel prifysgol.