
Nid peth hawdd yw dechrau yn y coleg mewn pandemig fyd-eang, ond mae siwrnai Martin Madamidola’n enghraifft eithriadol o lwyddiant myfyriwr o Goleg Dewi Sant. Dechreuodd ei astudiaethau ymysg ansicrwydd, gan fynd benben â heriau dysgu ar-lein a rhwystrau cymdeithasol. O ganlyniad i’w wytnwch, a chefnogaeth y Coleg, arweiniodd ei brofiadau at ragoriaeth academaidd, twf personol a dyfodol addawol ym myd y Gyfraith.
Addasu i fywyd y Coleg yn ystod COVID-19
Pan ddechreuodd Martin ei astudiaethau yng Ngholeg Dewi Sant, cipiwyd y byd gan bandemig Covid-19. Roedd hi’n her i addasu i ddysgu ar-lein. Roedd cadw ysgogiad a chanolbwyntio’n anodd, yn enwedig mewn pynciau cymhleth fel y Gyfraith, Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, heb ymwneud ac eraill wyneb yn wyneb.
“Ar y cychwyn, roedd dysgu ar-lein yn teimlo’n ynysig. Roedd yn anodd deall syniadau cymhleth heb drafodaeth neu ymwneud ac eraill mewn ffordd go-iawn.”
Er gwaetha’r anawsterau hyn, daeth cymuned Coleg Dewi Sant i ben â’r sefyllfa. Cyflwynodd y Coleg systemau cefnogaeth i sicrhau bod myfyrwyr yn gwneud cynnydd academaidd ac i ofalu am eu lles. Hyd yn oed pan ail-agorodd y safle, roedd rhwystrau fel ymbellhau cymdeithasol yn heriau newydd, ond daliodd y synnwyr o gymuned i fod yn gryf.
“Roedd awyrgylch gefnogol y Coleg yn bwysig iawn ar y pryd. Hyd yn oed gydag ychydig o ryngweithio, ro’n i’n gallu ffurfio perthnasau ystyrlon gyda chyfoedion a staff.”
Goresgyn Heriau Academaidd
Er mwyn astudio tri phwnc traethodol roedd angen strategaethau adolygu cryf- sgiliau na ddaeth yn gyflym i Martin yn y lle cyntaf.
“Fe wnes i straffaglu’n wreiddiol i strwythuro fy adolygu er mwyn cofio llawer iawn o wybodaeth.”
I oresgyn hyn, ymchwiliodd Martin i amrywiaeth o ddulliau dysgu, gyda chymorth athrawon. Darparodd staff Dewi Sant gefnogaeth ychwanegol mewn sesiynau adolygu yn ystod y gwyliau a thu allan i oriau arferol, wnaeth chwarae rhan allweddol yn rhoi hwb i’w hyder a pherfformiad academaidd heb fod angen tiwtora preifat.
Cynigiodd y Coleg fynediad at wasanaethau cwnsela, a helpodd i reoli straen a chadw ffocws drwy gyfnod anodd.
Cofleidio Cyfleoedd tu allan i’r Dosbarth er Llwyddiant
Nid dim ond gwaith academaidd oedd ei ffocws. Cymerodd Martin ran mewn gweithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys chwarae i dîm pêl-droed y Coleg yn ei ail flwyddyn.
“Gwnaeth cydbwyso gwaith academaidd a chwaraeon fy ngalluogi i ddatblygu’n feddyliol a chorfforol.”
Hefyd ymunodd e am gyfnod byr â’r rhaglen Anrhydedd, gan ennill mynediad i bynciau ymestynnol tu hwnt i’r cwricwlwm arferol. Arweiniodd y profiadau hyn, ynghyd â’i benderfyniad a chefnogaeth y staff, at ganlyniadau academaidd ardderchog- A am bob pwnc Lefela.
Y cyntaf o’i deulu i fynd i’r brifysgol, cafodd Martin le i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerwysg carreg filltir arwyddocaol.
Rhannu ei Brofiad: Mentora a Phrofiad Cyfreithiol
Ers gadael Coleg Dewi Sant, mae Martin wedi bod yn barod i gefnogi myfyrwyr eraill o gefndiroedd wedi’u tangynrychioli. Drwy raglen SEO London mentorship <https://www.seo-london.org/post/the-game-changing-impact-of-mentoring-at-seo-london>, mae’n arwain darpar fyfyrwyr y gyfraith, gan eu helpu i lywio ar hyd llwybr gyrfa.
Yn ei flwyddyn olaf yn ysgol y gyfraith erbyn hyn, mae Martin yn gweithio at gaffael cytundeb hyfforddiant er mwyn cymhwyso fel cyfreithiwr. Mae interniaethau gwerthfawr gyda Hogan Lovells ac Adran Gyfraith y Llywodraeth wedi darparu profiadau go-iawn iddo, a chadarnhau ei angerdd tuag at broffesiwn y gyfraith.
Cyngor i Fyfyrwyr y Dyfodol
Wrth adlewyrchu ar ei siwrnai o Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog i yrfa addawol yn y gyfraith, mae’r cyn-fyfyriwr yma eisiau rhannu neges bwerus â myfyrwyr presennol a dyfodol Coleg Dewi Sant:
“Gwnewch y mwyaf o gefnogaeth Coleg Dewi Sant- cymorth academaidd, gwasanaethau iechyd meddwl, a chyfleoedd all gwricwlaidd. Fe ddaw heriau, ond gall gwytnwch a phenderfyniad eich cario chi’n bell.”
I gloi
Darparodd Coleg Dewi Sant lawer mwy na dim ond addysg- cynigiodd sail ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Mae stori Martin yn dangos canlyniad amgylchedd ddysgu gefnogol a phŵer dyfalbarhad.