
Cafodd myfyrwyr Echwaraeon o Goleg Dewi Sant y fraint o gynrychioli Echwaraeon Cymru, PE Direct, ac Ysgol Y Deri drwy drefnu Twrnamaint Echwaraeon Hygyrch cyntaf Cymru. Dangosodd y digwyddiad hwn bwysigrwydd cynhwysiant, arloesedd, a chydweithio mewn addysg ac Echwaraeon.
“Pan fydd pobl yn gofyn i fi beth yw echwaraeon, hoffwn i tasen nhw’n gallu gweld beth ddigwyddodd yma heddiw” –Athro TG ac Echwaraeon Coleg Dewi Sant, Mr Hazel.
Profi Cefnogaeth a Sylwebaeth Fyw
Cystadlaethau Mario Kart wedi’u haddasu at anghenion anabledd amrywiol oedd hanfod y gystadleuaeth yn Ysgol Y Deri ym Mhenarth. Gyda thechnoleg addasol fel rheolyddion hygyrch, cafodd pob dysgwr y cyfle i gystadlu a dathlu echwaraeon.
Darparodd ein myfyrwyr Echwaraeon gefnogaeth un i un, magu naws hwylus, a rhoi sylwebaeth fyw gyffrous drwy gydol y chwarae. Rydyn ni’n falch o’r proffesiynoldeb, positifrwydd ac arweiniad ddangosodd ein myfyrwyr Echwaraeon. Dangoson nhw werthoedd craidd cymuned ein coleg, a gadawon nhw argraff barhaus ar bawb a gymerodd ran.
Nododd Mr Hazel, Athro TG ac Echwaraeon Coleg Dewi Sant:
“Roedd gweld y cystadleuwyr yn gwenu, a gwylio’n myfyrwyr yn ymarfer y sgiliau maen nhw wedi bod yn datblygu dros eu dwy flynedd ar y cwrs Echwaraeon, yn gwneud i fi werthfawrogi pa mor bwysig mae cyrsiau fel hyn i’r genhedlaeth nesaf.
“Er i fi fod ynghlwm ag Echwaraeon drwy gydol fy mywyd, dyma’r tro cyntaf i fi weld gweithgaredd sydd 100% yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.”
Dymchwel Rhwystrau
Cafwyd canmoliaeth i’r gystadleuaeth gan Chwaraeon Anabledd Cymru, a bwysleisiodd sut gall echwaraeon hybu cynwysoldeb a dymchwel rhwystrau. Dathliad oedd y digwyddiad hwn- o amrywiaeth, hygyrchedd a chysylltiadau dynol.
Rydym yn angerddol am ddarparu profiadau byd go-iawn i’n myfyrwyr sy’n meithrin hyder, empathi, a synnwyr o bwrpas. Gwnaeth y digwyddiad hwn enghreifftio’r gwerthoedd hyn, yn ogystal â gwaith tîm, parch a’r gred bod pob un person yn haeddu gofod i ffynnu ynddo.
Cefnogodd y myfyrwyr hyn rywbeth mor bwerus, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau ein gwaith gyda phartneriaid fel Echwaraeon Cymru, PE Direct ac Ysgol Y Deri i dyfu cyfleoedd fel hyn ar draws y wlad. Da iawn wir i bawb a oedd ynghlwm â’r digwyddiad.