Cychwynnodd naw o fyfyrwyr UG a Safon Uwch ar daith trwy berfedd Nepal i ymgolli yn ei thraddodiadau a dathliadau lleol, a chreu effaith amgylcheddol gadarnhaol o fewn ei chymuned leol a’i hysgolion.
Ar y diwrnod cyntaf yn Nepal, ymgartrefodd dysgwyr ar ôl taith hir a dioddef o jetludded, gan ddod o hyd i lety ym maestref Kathmandu yn Lalitpur. Yn fuan wedyn, ymunodd y dysgwyr â thaith o amgylch yr ardal leol i ddarganfod rhagor am ddiwylliant y wlad ac ymgyfarwyddo â’r ardal.
Un o uchafbwyntiau’r daith oedd Sgwâr Patan Durbar, safle Treftadaeth y Byd UNESCO, a dychwelodd y dysgwyr yma sawl gwaith yn ystod eu harhosiad.
Nododd y dysgwyr a’r athrawon fel ei gilydd mai dydd Sul oedd y diwrnod mwyaf cofiadwy iddynt, wrth iddynt gymryd rhan yng Ngŵyl Holi gyda’r bobl leol, gan ddathlu lliw a dyfodiad y gwanwyn. Roedd y dysgwyr wedi paratoi ar gyfer y digwyddiad lliwgar gyda balŵns dŵr a phacedi o baent bowdwr. Er gwaethaf eu paratoadau, nhw oedd y cyntaf i gael eu trochi mewn enfys o baent lliwgar gan bawb yr oeddent wedi cyfarfod â nhw, gyda chyfarchiad “Holi Hapus” cyfeillgar.
Cafodd y grŵp eu peledu gan blant a phobl ifanc lleol, gyda balŵns, bwcedi o baent a phistolau dŵr. Mwynhaodd y dysgwyr y profiad gan nodi, “Roedd yr awyrgylch yn hwyl ac yn hamddenol, er ei fod yn edrych braidd yn wallgof.”
Heblaw’r ŵyl liwgar, treuliodd y dysgwyr llawer o amser yn paratoi ar gyfer y sesiynau gweithdy boreol mewn ysgol leol yn canolbwyntio ar les cymdeithasol ac emosiynol. Dywedodd Ms Le Dentu, “Gwnaeth eu creadigrwydd a’u brwdfrydedd i gwrdd â’r myfyrwyr hyn, cyflwyno sesiynau hwyliog a chyfathrebu â nhw argraff arnaf. Roedd y gwaith tîm yn drawiadol.”
Gwnaeth y myfyrwyr hefyd gymryd rhan mewn codi sbwriel, gan helpu ac ysbrydoli myfyrwyr ifanc Nepal i nodi effaith gadarnhaol clirio sbwriel o’u hamgylchedd.
Cafodd y dysgwyr gyfle i brofi Nepal yn ogystal â dysgu am y diwylliant, rhyngweithio â phobl leol, a rhoi blas ar y bwyd lleol. Cafodd y dysgwyr gyfle i addysgu eu hunain a bod yn dystion i effaith amgylcheddol y wlad, sy’n gyson tua’r lle cyntaf ar gyfer dinas fwyaf llygredig y byd (Kathmandu).
Pan ofynnwyd iddi am y profiad o Nepal, dywedodd Ms Le Dentu
“Profiad anhygoel i’n myfyrwyr ddeall y bygythiadau i’n hamgylchedd ar raddfa fyd-eang, yn ogystal ag ymgolli yn niwylliant a bwyd Nepal.”