Ar 11 Ebrill 2025, arhosodd 28 o fyfyrwyr a saith aelod o staff yn effro drwy’r nos fel her i godi arian at elusennau. Trefnodd y myfyrwyr gemau dros nos a heriau arbennig, er mwyn codi arian at un o ddewis o 5 elusen. Ar gyfer elusennau Newyn Byd CAFOD, Ymchwil Canser, Maggie’s, Addysg yn Lesotho, a Digartrefedd yng Nghaerdydd, cododd y myfyrwyr gyfanswm o £565 drwy eu gemau a gweithgareddau.

Llongyfarchiadau i bawb a drefnodd a chynlluniodd y digwyddiad hwn, yn enwedig i’r rhai wnaeth aros ar ddihun drwy’r nos i gefnogi’r achosion da. Dyma hanes profiadau rhai o’r myfyrwyr, yn manylu sut gwnaeth y noson eu helpu i fagu cyfeillgarwch newydd:

 


Profiad Vee:

“Drwy gydol y digwyddiad, dewisais i i godi arian at ddigartrefedd yng Nghaerdydd, achos dw i’n credu ei fod yn broblem gynyddol fawr, gyda llawer o bobl yn cael eu gwthio i oroesi ar y strydoedd, ac yn wynebu anfantais ac anghyfiawnder bob dydd heb fod gyda nhw unrhyw le i’w gwarchod eu hunain. Roedd cael eiriol dros yr achos hwn yn teimlo’n dda, ac fe geisiais i rannu’r cyfle gymaint â phosibl.

Er hynny, uchafbwynt y digwyddiad oedd y noson ei hun. Cwrddais i â phobl newydd, a chanddynt yr un uchelgais i aros yn effro drwy’r nos. Rhoddodd hyn synnwyr o gymuned i ni, oedd yn werthfawr i fi. Gwnaeth y gweithgareddau, y bobl a’r egni positif wneud y cwbl yn werth chweil.”

 

Profiad Georgia:

“Dewisais i godi arian tuag at addysg well yn Ne Affrica, gan gredu bod addysg yn bwysig i bawb, am ei fod yn helpu gyda dyfodol pobl. Roedd fy mhrofiad i o aros lan mor hwyr yn wych, arhosais i’n effro diolch i’r gweithgareddau hwylus a chael amser da drwyddi draw. Mwynheais i’r holl noson, yn enwedig y Karaoke, y bingo a’r cloncian hwyrnos gyda phawb. Petai hyn yn digwydd eto, baswn i wrth fy modd i gymryd rhan.”

 


Profiad Mali:

“Roedd y noson godi arian yn gymaint o hwyl, yn siarad â phobl do’n i erioed wedi cwrdd â nhw, yn enwedig yn oriau mân y bore, pan oedd pawb wedi blino, ond gwnaeth hynny bopeth yn well fyth, achos gwnaethon ni siarad am bopeth ac am unrhyw beth. Dw i’n meddwl gwnaeth fy ngweithgaredd Bingo i godi arian fynd lawr yn dda, ac roedd pawb i’w gweld yn mwynhau’r gweithgareddau drwy’r nos. Er iddi fod yn anodd iawn i aros ar ddihun yr holl amser, dw i’n meddwl bod hi’n werth yr ymdrech achos y ffrindiau newydd wnes i, a’r faint o arian godon ni ar gyfer achosion gwych!”

 

Profiad Heidi:

“Roedd y noson yn llawer o hwyl ac wedi’i threfnu’n dda, gwnaeth pawb ddod ymlaen yn gyflym a dw i wedi gwneud ffrindiau newydd gyda’r merched gymerodd ran. Roedd hi’n gyfle gwych i ddod i nabod pobl eraill ac i ffeindio mas mwy amdanyn nhw achos roedd drwy’r nos gyda ni i siarad, gwnes i hyd yn oed ddarganfod aelod o’r teulu nad o’n i’n nabod o’r blaen!”