Rhwng 30 Hydref a 3 Tachwedd, mentrodd grŵp o 5 myfyriwr i’r tywydd oer a garw wrth iddynt ymgymryd ag ymdaith heriol 5 diwrnod, 4 noson i fyny Bannau Brycheiniog. Cwblhaodd ein dysgwyr penderfynol eu siwrnai ar ôl llywio drwy diroedd creigiog a llwybrau llithrig a goddef nosweithiau anghysurus o gwsg. Dychwelodd y grŵp yn gyffro i gyd, yn awyddus i rannu holl fanylion eu hantur, a oedd yn cynnwys gweithio fel tîm, sylw i fanylion, dyfalbarhad a darganfod pedwar sgil newydd eu dysgu.
Cyn y gellid cychwyn ar yr ymdaith hon, bu rhaid i Kayra, Durukan, Andrei, Filip a Morgan baratoi eu hunain ar gyfer y penderfyniad anodd i ymaddasu i sgiliau newydd i helpu i lywio a pharatoi’r pebyll yn chwim mewn tywydd garw tra’n ymlwybro i fyny llwybr y mynydd. Meddai Andrei, “Fe ddysgom sut i ddarllen mapiau a defnyddio nodiannau penodol. Roedd y diwrnod cyntaf yn cwmpasu hyfforddiant yn yr elfennau sylfaenol yn bennaf, megis darllen map, technegau llywio a pharatoi’r babell.”
Am 3 noson gyntaf y siwrnai, roedd Storm Ciaran yn teyrnasu’r mynydd â’i gwyntoedd cryfion ac yn tywallt y glaw, gan ei gwneud hi’n rhy beryglus i anturwyr ifanc fel ni barhau. Felly, dychwelon nhw i’r prif adeilad er mwyn aros i’r storm dawelu cyn parhau â’u hymdaith. “Oherwydd Storm Ciaran a’r amodau garw a ddaeth yn ei sgil, cawsom y pleser o gysgu y tu fewn i’r adeilad am 3 noson,” ychwanegodd Andrei.
Wrth ddychwelyd i’r llwybr mynyddig, teithiodd ein 5 dysgwr ar hyd tiroedd anodd ac amrywiol tan iddynt gyrraedd eu cyrchfan ar gopa’r mynydd 790 medr o uchder. Darganfuodd y myfyrwyr golygfeydd ysblennydd ar y copa, gan gynnwys golygfa banoramig o’r dirwedd o’u cwmpas oedd yn amlapio troed y mynydd. Fodd bynnag, nid dyma oedd diwedd eu siwrnai, oherwydd yn eu hwynebu nawr oedd “disgyniad heriol ar hyd llwybr serth. Er gwaethaf cerdded am 6 awr, roedd y golygfeydd panoramig yn cyfiawnhau ein hymdrechion,” meddai Andrei.
Elfen nodedig arall o’u siwrnai oedd “Taith Taf”, meddai Andrei. Cychwynnodd y dysgwyr hyn eu tro 5 awr ar hyd Taith Taf, gan ddysgu sut i lywio tirwedd fynyddig heb lwybrau gan ddefnyddio cyfeiriannau, tra’n wynebu’r gwyntoedd 70mya anhygoel a oedd yn parhau i hyrddio’r llwybr o’u blaenau. Er gwaethaf yr holl ymdrechion llafurus hyn drwy gydol y 5 diwrnod, roedd y myfyrwyr wedi dysgu llawer o sgiliau bywyd gwerthfawr a byddent yn treulio “bob nos yn chwerthin gyda’i gilydd ac yn adrodd straeon. Roedd y profiad hwn wedi dysgu gwersi hollbwysig i mi am waith tîm, sylw i fanylion, dyfalbarhad a dealltwriaeth o’n galluoedd corfforol,” meddai Andrei.
Roedd gan ein dysgwyr y canlynol i’w ddweud ar ôl eu hymdaith:
“Roedd ymdaith yr Adran Addysg yn heriol, ond helpodd fi i feithrin gwytnwch” – Kayra.
“Hoffwn ddiolch i Dan a Morgan am eu harweiniad rhagorol a’u help yn ystod yr ymdaith ac am fod yn hyfforddwyr gwych. Rwy’n edrych ymlaen at yr ymdaith nesaf ym mis Ebrill.” – Andrei.