Ein hymrwymiad i’r cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Yn ystod wythnos gyntaf y tymor, fe wnaeth staff Coleg Dewi Sant roddi 75 pecyn llawn bethau ymolchi i’r Tîm Profiad Cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Cafodd y pethau ymolchi eu dosrannu i gleifion a gafodd eu derbyn i’r ysbyty ar frys, a heb amser i bacio’u brws dannedd na’u diaroglydd, neu’r rhai heb unrhyw un i ddod â’r pethau hanfodol atynt.
O nawr ymlaen, bydd hyn yn ymrwymiad blynyddol gan Goleg Dewi Sant.
Mae’r ymgyrch yn dilyn prosiect cymunedol mawr a wnaed yn ystod y cyfnod clo gan staff, er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Wrth i’r arferion hyn flodeuo, daw eu heffaith i ysbrydoli dysgwyr y dyfodol i gyfrannu’n weithredol at achosion elusennol i’r amlwg.
Dywedodd un defnyddiwr ar ‘Trydar’: “Yn ystod adeg lle’r oedd angen y fath gymorth arnaf, roedd cael brws a phast dannedd yn help mawr, felly diolch”.