Welsh and Peruvian students outside St David's College

Fis diwetha, agorodd Coleg Dewi Sant ei ddrysau i fyfyrwyr o Beriw a Japan drwy ein partneriaeth â  Celtic International Language School yng Nghaerdydd, fel rhan o’n gwaith parhaus yn cyfnewid myfyrwyr rhyngwladol.

Croesawodd y Coleg 15 o fyfyrwyr a dau athro o Buen Consejo yn Lima, Periw, ar gyfer rhaglen fis o gyfnewid rhyngwladol diwylliannol.

Japanese students outside St David's College

Yn ogystal, croesawon ni fyfyrwyr a staff o Ysgol Nori Kevers yn Osaka am ymweliad o dridiau, yn ail gyfnewid rhyngwladol i’r myfyrwyr fel rhan o’r bartneriaeth gynyddol sy’n rhoi’r cyfle i ymwelwyr astudio yng Nghaerdydd.

Ail-ymweliad o Japan

Yn dilyn cyfnewid llwyddiannus y llynedd, dychwelodd myfyrwyr a staff Ysgol Nori Kevers am ymweliad o dridiau.

International and St David's Students

Yn ystod eu hamser yn y coleg, cafodd y myfyrwyr oedd yn ymweld eu paru â dysgwyr Dewi Sant drwy system gyfeillio.

Rhoddodd hyn y cyfle iddyn nhw i brofi bywyd coleg eu hunain ac astudio yng Nghaerdydd, a chyfle i’n myfyrwyr ni fagu hyder, arweinyddiaeth a sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol drwy’r rhaglen gyfnewid ddiwylliannol hon.

Group of Japanese and St David's students in a lecture theatre

Ynghŷd â mynd i wersi, cymerodd y grŵp ran mewn amrywiaeth o weithgareddau, a threuliodd yr athrawon amser gyda staff y coleg yn rhannu syniadau ac agweddau ar addysgu.

Arhosiad o fis o Beriw

Daeth criw o 15 o fyfyrwyr a dau athro o Beriw am ymweliad mis o hyd ym mis Mawrth fel rhan o gyfnewid rhyngwladol o fyfyrwyr.

Peruvian and St David's students outside the college

Daeth y grŵp i’r coleg yn wythnosol a gweithio’n agos â’n Cyfeillion Rhyngwladol- tîm o dros 25 o wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi i fentora cyfoedion drwy Elevate.

Yn ystod eu hamser yn y coleg, cymerodd y myfyrwyr ran yng ngweithgareddau’r rhaglen gyfnewid rhyngwladol yn cynnwys teithiau, trafodaethau a sesiynau mentora grŵp. Helpodd y gweithgareddau i fagu hyder a dealltwriaeth rhyngddiwylliannol rhwng y grwpiau wrth ddarparu cyfle ystyrlon i astudio yng Nghaerdydd.

Students outside the college

Roedd yr adborth gan y ddau grŵp o fyfyrwyr yn hynod gadarnhaol:

“Roedd gweithio gyda’r myfyrwyr o Beriw yn wych. Dysgon ni shwd gymaint wrth ein gilydd, ac roedd hi’n teimlo fel petaen ni yn un gymuned fawr.”

“Roedd pawb yng Ngholeg Dewi Sant mor groesawgar. Gwnaethon ni ddwlu ar y gweithgareddau, creu ffrindiau newydd, a dysgu llawer am ddiwylliant Cymru.”

Edrych ymlaen

Ar y cyfan, mae’r ymweliadau llwyddiannus hyn yn adlewyrchu ffocws barhaus y coleg ar gyfnewid myfyrwyr yn rhyngwladol a darparu rhaglen safon uchel o gyfleoedd cyfnewid diwylliannol.

Students posing for a photo

Gyda chysylltiadau’n datblygu o hyd, edrychwn ymlaen at groesawu grwpiau’r dyfodol a pharhau i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio yng Nghaerdydd.