Nia Greenwood winning Best TV/Film Extract at the BFI/WJEC Moving Image Awards

Eleni, ar y 4ydd Mawrth, fe gynhaliwyd yr 8fed Gwobrau Delwedd Symudol BFI/CBAC yn Llundain. Mae’r gystadleuaeth yn cydnabod cynyrchiadau ffilm a theledu a grëwyd gan fyfyrwyr. Mae’r seremoni wobrwyo yn dathlu’r gwaith gorau gan fyfyrwyr sy’n astudio Ffilm a’r Cyfryngau mewn ysgolion a cholegau ar draws y DU.

Fe achubodd Nia Greenwood, myfyriwr sy’n astudio Astudiaethau’r Cyfryngau, ar y cyfle i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth llynedd, ac ym mis Rhagfyr, hi oedd un o’r tri ymhlith 700 o ymgeiswyr i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr am ddarn ffilm neu deledu gorau.

Derbyniodd sawl myfyriwr ac athro gwahoddiad i fynychu’r achlysur i gefnogi Nia, gyda’r gobaith y byddai’r wobr eleni yn cael ei chipio gan Gymraes!

Roedd cyfle gan bob myfyriwr a oedd yn bresennol yn y seremoni i wrando ar siaradwyr arbenigol o’r diwydiannau creadigol, gan gynnwys critigyddion ffilm, golygwyr sgript, a chreawdwyr ffilmiau dogfen, yn trafod y sgiliau sydd angen ar gyfer y sector. Yna, fe gafodd enwebeion ym mhob categori eu cyhoeddi a chyflwynwyd gwaith pob un i’r gynulleidfa. Roeddwn ni gyd yn awyddus iawn i wybod pwy ymysg yr enwebeion oedd enillydd y wobr am ddarn ffilm/teledu gorau, ac wrth wybod mai Nia oedd yr enillydd, roedd yn bleser clywed y gymeradwyaeth wresog a gafodd hi gan ei chyd-fyfyrwyr a’i hathrawon.

Fe grëodd Nia gynhyrchiad ‘Claymation’ gyda golygfa agoriadol arswydus, a dywedodd y beirniaid yr oedd yn gynhyrchiad creadigol gyda defnydd ardderchog o sain.

Sylwadau’r beirniaid: “Darn gwych o waith. Mae pob eiliad yn cyfrif yn yr animeiddiad stop-symudiad hwn sy’n dangos y gallu i dalu sylw i’r manylion. Mae wedi’i amseru’n berffaith i gyfleu’n glir, a delweddau a sain cwbl gydamseredig – mae’r defnydd o sain yn ardderchog. Mae mynegolrwydd y cymeriadau wedi’u hanimeiddio yn drawiadol. Mae’n cymhwyso confensiynau animeiddio yn hyderus, ac yn cael ei lywio gan waith arall (e.e., Ardman), ond mae’r darn yn wreiddiol ac yn drawiadol. Mae’r cwpan yn cwympo wedi’i amseru’n berffaith, gan adlewyrchu gallu hyderus i gyfosod trosiadau arswyd ag adegau doniol iawn. Roedd y gynulleidfa ar y diwedd yn awyddus i wybod beth sy’n digwydd nesaf!”

Da iawn i Nia am ennill y wobr ac am gynrychioli Coleg Dewi Sant yn y gystadleuaeth – dyma’r trydydd tro i fyfyriwr o Goleg Dewi Sant gyrraedd y rhestr fer, a’r ail dro i fyfyriwr o’r coleg gipio’r wobr. ​

Yn ogystal â hynny, fe wnaeth CBAC anfon neges atom i ddweud yr ystyrir Coleg Dewi Sant bellach fel canolfan uchel ei pharch oherwydd safon y gwaith a gyflwynwyd gan ein myfyrwyr yn y gystadleuaeth hon.