Bydd gyda chi ddosbarthiadau eraill wedi'u cynnwys yn eich amserlen, mae'r dosbarthiadau hyn yn rhan o Graidd Dewi Sant
Bugeiliol
Drwy gydol eich bywyd byddwch yn wynebu nifer o heriau. Bydd angen i chi ddatblygu’r sgiliau cymdeithasol ac emosiynol i wynebu’r heriau hyn. Bydd y Rhaglen Myfyrdod Bugeiliol nid yn unig yn eich dysgu am rai o’r materion y byddwch yn eu hwynebu, ond hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wynebu heriau newydd ac annisgwyl yn ddiweddarach mewn bywyd.
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Mae’n rhaid i bob dysgwr gwblhau tri phrosiect gorfodol sy’n darparu cyfrwng i ddysgwyr ddatblygu, ymarfer a dangos y Sgiliau Integredig trwy ystod o gyd-destunau sy’n berthnasol ac yn gyfredol ac sy’n annog dysgwyr i gymryd rhan mewn ymgysylltiad beirniadol a sifil ac i ystyried eu lles a lles eraill.
Myfyrdod Ysbrydol
Myfyrdod Ysbrydol yw’r teitl a roddir i’r Rhaglen Addysg Grefyddol a dilynir gan bob myfyriwr, gyda gwers 50 munud o hyd pob wythnos.
Y cwestiwn dechreuol i bob myfyriwr yw: ‘pa fath o berson hoffwn i fod?’ Trwy gydol y cwrs, caiff myfyrwyr y cyfle i adlewyrchu ar ystod eang o rinweddau a gwerthoedd, astudiaethau achos o’r rhinweddau hynny’n ymarferol, yn ogystal â modelau rôl i’w hefelychu. Gall myfyrwyr ennill Gwobr Estynedig Lefel 3 (Agored Cymru) mewn Addysg Grefyddol ar gwblhad llwyddiannus y cwrs. Mae hwn yn gymhwyster ychwanegol a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru.