Bydd gennych ddosbarthiadau eraill wedi'u cynnwys yn eich amserlen, a gall y rhain gynnwys
Cefnogaeth Fugeiliol
Drwy gydol eich bywyd byddwch yn wynebu nifer o heriau. Bydd angen i chi ddatblygu’r sgiliau cymdeithasol ac emosiynol i wynebu’r heriau hyn. Bydd y Rhaglen Myfyrdod Bugeiliol nid yn unig yn eich dysgu am rai o’r materion y byddwch yn eu hwynebu, ond hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i wynebu heriau newydd ac annisgwyl yn ddiweddarach mewn bywyd.
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Mae’n rhaid i bob dysgwr gwblhau tri phrosiect gorfodol sy’n darparu cyfrwng i ddysgwyr ddatblygu, ymarfer a dangos y Sgiliau Integredig trwy ystod o gyd-destunau sy’n berthnasol ac yn gyfredol ac sy’n annog dysgwyr i gymryd rhan mewn ymgysylltiad beirniadol a sifil ac i ystyried eu lles a lles eraill.
Y Rhaglen Anrhydedd
Mewn ymgais i ddarparu ar gyfer anghenion unigol ein myfyrwyr, rydym wedi sefydlu rhaglen unigryw sydd wedi’i llunio ar gyfer myfyrwyr sydd yn dangos dawn academaidd.
Mae’r Rhaglen Anrhydedd wedi gweld nifer o’i myfyrwyr yn symud ymlaen i astudio graddau yn rhai o brifysgolion blaengar y Deyrnas Unedig, gan astudio amrywiaeth o gyrsiau o Addysg i Sŵoleg. Mae ein record dros y blynyddoedd o gynorthwyo ein myfyrwyr i gyflawni eu llawn botensial wedi’i adnabod a’i chanmol gan Brifysgolion, arolygwyr, rhieni a myfyrwyr.
Myfyrdod Ysbrydol
Myfyrdod Ysbrydol yw’r teitl a roddir i’r Rhaglen Addysg Grefyddol a dilynir gan bob myfyriwr, gyda gwers 50 munud o hyd pob wythnos.
Y cwestiwn dechreuol i bob myfyriwr yw: ‘pa fath o berson hoffwn i fod?’ Trwy gydol y cwrs, caiff myfyrwyr y cyfle i adlewyrchu ar ystod eang o rinweddau a gwerthoedd, astudiaethau achos o’r rhinweddau hynny’n ymarferol, yn ogystal â modelau rôl i’w hefelychu. Gall myfyrwyr ennill Gwobr Estynedig Lefel 3 (Agored Cymru) mewn Addysg Grefyddol ar gwblhad llwyddiannus y cwrs. Mae hwn yn gymhwyster ychwanegol a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru.