
Wrth inni ddechrau mis sanctaidd Ramadan, cyfnod o ymprydio, gweddïo a myfyrdod i Foslemiaid dros y byd, bydd llawer o’n myfyrwyr yn cryfhau eu cysylltiad â’u ffydd. Mae un o’n myfyrwyr, Fatuma, wedi rhannu ei phrofiad pwerus o berfformio Umrah, y bererindod i Mecca. Gwnaeth ei siwrnai, a gymerodd hi drwy ddinasoedd cysegredig Madinah a Mecca, ddyfnhau ei chysylltiad gyda’i ffydd wrth iddi hi ddilyn ôl traed y Proffwyd Muhammad (Tangnefedd iddo).
Mae un o’n myfyrwyr wedi rhannu ei phrofiad dirdynnol o Umrah, gan adrodd am ei siwrnai o ffydd a defosiwn. Dechreuodd ei phererindod yn Madinah, dinas sy’n gyfoeth o hanes Islamaidd ac yn gartref i Fosg y Proffwyd, Masjid al-Nabawi. Yma cafodd archwilio’r safle lle sefydlodd y Proffwyd Muhammad (Tangenefedd iddo) un o’r cymunedau Moslemaidd cyntaf. Adlewyrchodd ar arwyddocad ysbrydol gweddi yn agos at safle claddu’r Proffwyd, lle sy’n cael ei ystyried yn gyfran o Jannah (paradwys).
O Madinah, teithiodd hi i Mecca, dinas fwyaf sanctaidd Islam, lle perfformiodd hi Umrah—pererindod gysegredig Islamaidd a gaiff ei chwblhau gan filiynau o bobl fyd-eang i gryfhau eu cysylltiad â Duw. Disgrifia hi’r teimlad ysgubol o undod wrth iddi sefyll ochr yn ochr â phobl o bob cefndir, â phawb wedi dod ynghŷd at yr un pwrpas ysbrydol, testament pwerus i nerth undodol ffydd.
Er mwyn paratoi at berfformio Umrah, sy’n gofyn purdeb corfforol ac ysbrydol, aeth hi i gyflwr cysegredig o’r enw Ihram. Mae Ihram yn gyflwr o gysegriad defodol pan fo rhai gweithredoedd yn cael eu gwahardd, ac eraill yn cael eu hannog. Mae dynion yn gwisgo dwy wisg wen, tra bod merched yn gwisgo’n gynnil, yn osgoi persawr ac unrhyw gynnyrch sy’n arogli. Cyn cyrraedd Mecca, mae pererinion yn aros yn Miqat, lle byddan yn perfformio Umrah, gan gynnig gweddïau ac ymbiliau.
Wrth iddi gyrraedd Masjid al-Haram, y Fosg Fawreddog, profodd hi ei golwg gyntaf rhyfeddol o Kaaba, safle mwyaf cysegredig Islam. Y Kaaba ydy ‘Tŷ Duw’ a dyna’r cyfeiriad y mae Moslemiaid yn gweddio tuag ato. Perfformiodd hi Tawaf, gan gerdded o gwmpas y Kaaba saith gwaith tra’n gweddïo, a dau uned o weddi i ddilyn ger y Kaaba. Cam nesa Umrah oedd cerdded rhwng Safa a Marwah, gan ddilyn ôl traed Hajar wrth iddi chwilio am ddŵr ar gyfer ei mab. Mae’r weithred hon yn cynrychioli dyfalbarhad ac ymddiriedaeth yn Nuw. Mae’r bererindod yn gorffen gyda defod torri gwallt. Mae dynion yn eillio eu gwallt i gyd, tra bod merched yn torri ond ychydig, i ddynodi adnewyddiad a gwyleidd-dra.
Wrth adlewyrchu ar ei phrofiad o Umrah, disgrifiodd ei siwrnai fel un sydd “wedi newid fy mywyd”, testament i bŵer trawsffurfol ffydd a defosiwn.
“Roedd gweld y Kaaba am y tro cyntaf a gweddïo yn y lle safodd fy Mhroffwyd annwyl unwaith yn brofiad gwirioneddol anhygoel. Roedd cwblhau fy mhererindod gyntaf i Mecca yn hynod foddhaus, a dw i’n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael y cyfle. Gobeithio gallaf gwblhau sawl Umrah ac Hajj eto rhyw dro.”
Estynnwn ein dymuniadau gorau at ein myfyrwyr, staff, teuluoedd a ffrindiau Moslemaidd wrth iddyn nhw gychwyn ar eu siwrnai Ramadan. Boed i’r mis ddod â thangnefedd, bendithion ac agosatrwydd dyfnach at Dduw i’r sawl sy’n ei gadw, ymdeimlad sy’n cydnabod ein parch a chefnogaeth at eich ffydd.