Mae amserlen yr Academi Pêl-fasged wedi bod yn un brysur hyd yn hyn y tymor hwn.
Pêl-fasged menywod oedd y cyntaf i gychwyn, wrth i’r merched deithio i Goleg Richard Huish ar gyfer gêm yn erbyn Huish a Truro, gan sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Truro cyn colli i dîm profiadol Huish.
Wedyn wynebodd y bechgyn 2il dîm Huish yn y gwpan gan ennill 71 – 44.
Dysgodd y bechgyn wers werthfawr yn erbyn tîm caled CAVC gyda cholled drom, cyn adfer yn erbyn ail dîm CAVC yn y Cwpan AOC gan ennill 80-46.
Daeth y bechgyn yn ail yn nhwrnamaint rhanbarthol Cymru, gydag ambell chwaraewr allweddol ar goll, ond daeth y tîm at ei gilydd i ennill rhai gemau agos iawn.
Cynhaliodd y merched dwrnamaint Pêl-fasged Ysgolion Cymru i flynyddoedd 11-13. Dangosodd y tîm undod ond collwyd o 31-38 i YG Glantaf. Yna cafodd y tîm fuddugoliaeth sydyn yn erbyn Cathays pan orffennodd y gêm yn gyfartal 26-26. Suddodd Zoe Ioannides y fasged fuddugol i ennill y gêm i Goleg Dewi Sant.
Cafodd y bechgyn eu gêm gartref gyntaf yn erbyn Coleg Caerwysg. Dangosodd Ravi Edirimuni safon wrth ymosod ond roedd ychydig o chwaraewyr amddiffynnol allweddol ar goll yn golygu bod y tîm yn cael trafferth gydag adlamau, ac fe gipiodd Caerwysg y fuddugoliaeth.