Mae’r llwyfan wedi’i osod ar gyfer ein sioe gerdd eleni – Sister Act!
Mae ein myfyrwyr Celfyddydau Perfformio yn llwyfannu cynhyrchiad o’r sioe gerdd egnïol hon a fydd yn ysgogi’r gynulleidfa i ddawnsio a chydganu!
Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer 25ain a’r 26ain Mai. Bydd drysau’n agor am 6:30, gyda’r sioe yn cychwyn am 7:00yh.
Sister Act Jr: Mae hon yn sioe gerdd sy’n adrodd stori ‘difa’ disgo, Deloris Van Cartier, sy’n dod yn dyst i lofruddiaeth, ac i’w hamddiffyn, mae’r heddlu yn ei hanfon i’r unig le fyddai neb yn gallu dod o hyd iddi: lleiandy! A hithau wedi gwisgo fel lleian, mae hi’n darganfod ei hun yn anghydnaws â’r ffordd o fyw anhyblyg a’r Uchel Fam amheus. Gan ddefnyddio’i thalent fel dawnswraig a chantores, mae Delores yn adfywio côr yr Eglwys, a thrwy wneud hynny, mae hi’n datgelu’i chuddfan. Yn fuan wedyn, mae gang yn dynn ar ei sodlau hi, dim ond i ddarganfod eu bônt yn wynebu Deloris a nerth y chwaeroliaeth newydd sbon y mae hi’n rhan ohoni.
Yn llawn cerddoriaeth bwerus, emynau hwyliog, dawnsio sy’n ddigon i ddychryn y saint, a stori wir drawiadol, byddai’n ysgubo unrhyw gynulleidfa i ORFOLEDDU!